Y Gorffennol, Y Presennol a'r Dyfodol
Calendr Digwyddiadau
Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal nifer fawr o ddigwyddiadau wedi’u hanelu at ddathlu pob agwedd o’n hanes 125 mlynedd.
Carolau o gwmpas y goeden - 17 Rhagfyr 2008
Fel un o raddedigion, ffrind neu gefnogwr Prifysgol Caerdydd rydych yn rhannu yn ei hetifeddiaeth.
Yn ystod ein 125 mlynedd o hanes, gyda'ch cefnogaeth chi, rydym wedi adeiladu enw da i'w chwenychu am ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil - gwaith sy'n creu budd mawr ar gyfer unigolion a chymdeithas.
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
Mae'r gystadleuaeth ar gyfer ein penblwydd yn 125 yn dathlu ein hamrywiaeth, lleoliad a chreadigrwydd. Ni allai fod yn haws i chi gymryd rhan a bydd y gorau o blith y rhai a dderbyniwyd yn ymddangos ar y dudalen hon (gweler y llun uchod) ynghyd ag yn ein horiel o 125 o luniau, ac mae gwobrau i'w hennill bob mis.
Ewch i dudalennau'r oriel i weld y ceisiadau hyd yn hyn.
Fy Nghaerdydd i
‘Fy Nghaerdydd i’ gan Yr Is-ganghellor, Dr David Grant
“Mae’r llwyddiant a welaf o ddydd i ddydd yn cael ei greu gan y bobl fwyaf dawnus yr wyf erioed wedi cael y fraint o weithio gyda nhw. Fel Is-ganghellor, rwy’n gweld rhagoriaeth yn ein haddysgu ac ymchwil, ac yn y cyfraniad enfawr rydym yn ei wneud i gymdeithas a’r economi…”








