Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Cystadleuaeth Lluniau ‘Prifysgol Caerdydd: 125 o Flynyddoedd’

Ni allai fod yn haws i gymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Dathlu 125 Mlynedd a cheir rhai gwobrau gwych. Hefyd, byddwn yn arddangos pob enillydd, rhai a ddaeth yn ail ac unrhyw gais arall rydym yn eu hoffi ar ein gwefan - a hefyd efallai mewn arddangosfa ddiwedd blwyddyn yn y Brifysgol.

Ceir pedwar categori yn y gystadleuaeth, pob un â phrif wobr wefreiddiol i’w chyflwyno ar ddiwedd y gystadleuaeth ym mis Hydref 2008. Ceir gwobrau yn ogystal ar gyfer y lluniau “Dewis y Mis” a fydd yn cael eu dewis dros y naw mis nesaf. Gellir cyflwyno lluniau yn hawdd ar y lein drwy ddefnyddio Flickr neu neges e-bost.

Categorïau a Gwobrau

Mae'r gystadleuaeth wedi'i rhannu'n bedwar dosbarth er mwyn rhoi'r ystod gorau o gyfle i chi fod yn greadigol yn eich cyfraniadau.

Campws y Brifysgol

Fuji FinePix S9600 High-End Digital CameraMae campysau Prifysgol Caerdydd yn cynnwys nifer fawr o adeiladau, rhai ohonynt yn hen a rhai’n newydd. Rydym yn awyddus i weld sut rydych yn eu portreadu mewn llun. Rhaid i’r llun gynnwys adeilad o eiddo Prifysgol Caerdydd, tiroedd y campws neu strydoedd a golygfeydd perthynol. Os oes pobl yn ymddangos yn y llun ni ddylent fod yn bwynt ffocws ynddo. Mae’r categori hwn yn agored i bawb - nid oes raid i chi fod yn fyfyriwr neu’n aelod o staff y Brifysgol i gymryd rhan.
Prif Wobr: Camera Digidol Fuji FinePix S9600 High-End
Gwobr Fisol: Gwerth £20 o docynnau Amazon.co.uk


Fy Ngwaith

Toshiba Laptop Satellite Pro L40-15DMae’r categori hwn yn eich annog i gymryd llun o’ch gwaith ym Mhrifysgol Caerdydd - yn academaidd neu fel arall - mewn modd arloesol a chreadigol. Rhaid i bwnc eich llun fod yn gysylltiedig mewn rhyw fodd neu'i gilydd â’ch gwaith neu eich astudiaethau. Mae’r categori hwn yn agored i bob categori o fyfyrwyr neu staff presennol y Brifysgol.
Prif Wobr: Gliniadur Toshiba Satellite Pro L40-15D
Gwobr Fisol: Gwerth £20 o docynnau Amazon.co.uk


Bywyd Caerdydd

iPod TouchDarluniwch unrhyw agwedd o’ch bywyd yng Nghaerdydd - y Brifysgol neu’r Ddinas - dylai’r llun ddangos eich gêm rygbi gyntaf, cael hwyl gyda ffrindiau, eich hoff daith gerdded neu dirnod, diwrnod da allan neu rywbeth sy’n cyfleu bywyd Caerdydd i chi –mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw. Mae’r categori hwn yn agored i bawb.
Prif Wobr: iPod Touch
Gwobr Fisol: Gwerth £20 o docynnau Amazon.co.uk


125: Defnyddiwch eich Dychymyg

Amazon vouchersFel categori penagored rydym llawn cyffro i weld yr hyn byddwch yn eu cyfleu, a’r cysylltiadau byddwch yn eu llunio rhwng eich llun chi a Phrifysgol Caerdydd. Rhaid i bwnc eich llun fod yn gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd mewn rhyw ffordd.

Prif Wobr: Gwerth £150 o docynnau Amazon.co.uk
Gwobr Fisol: Gwerth £20 o docynnau Amazon.co.uk