Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Fy Nghaerdydd i

Huw Edwards

Huw Edwards, a raddiodd yn Ffrangeg ym 1983, yn sôn am ei ddyheadau ar gyfer y Brifysgol.

Huw Edwards

Huw Edwards.

Rwy’n falch iawn o’m cysylltiadau â Phrifysgol Caerdydd, a ddechreuodd fel myfyriwr israddedig ym 1979 ac sy’n parhau heddiw fel Cymrawd Anrhydeddus, fel Athro Anrhydeddus Newyddiaduriaeth.

Bellach mae Caerdydd wedi datblygu’n un o brifysgolion blaenllaw Ewrop, a chanddi enw da aruthrol am waith ymchwil o ansawdd uchel mewn nifer o feysydd. Rowch hyn ynghyd ag adfywiad Caerdydd fel dinas Ewropeaidd wefreiddiol, ac mae gennych y sefyllfa ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr.

Chwaraeais fy rhan yn y dathliadau canmlwyddiant 25 mlynedd yn ôl, a’r peth gwych yngl?n â’r garreg filltir ddiweddaraf hon yw ein bod yn cael y cyfle i fod yn hyd yn oed yn fwy hyderus yngl?n â dyfodol Caerdydd. Rwyf am weld y brifysgol yn gosod safonau hyd yn oed yn uwch ar gyfer dysgu ac ymchwil, ac i fod yn ddewis cyntaf i hyd yn oed mwy o fyfyrwyr israddedig.

Mae Huw Edwards yn adnabyddus i filoedd o wylwyr fel prif gyflwynydd rhaglen newyddion flaenllaw y BBC, 10 O’Clock News. Ymunodd â’r BBC dros ugain o flynyddoedd yn ôl, ac fe gyflwynodd ystod eang o raglenni, gan gynnwys Newsnight, Panorama, ac wedyn y 6 O’Clock News – a chydgyflwynodd dwy raglen Etholiad Gyffredinol ar Radio 4. Ei lais ef yw llais y BBC adeg seremoni’r Trooping of the Colour, y Gwasanaeth Coffa, ac Agoriad Swyddogol y Senedd.

Darllen mwy o storïau ‘Fy Nghaerdydd’
More ‘My Cardiff’ Stories…
Calendr Digwyddiadau - Mwy o wybodaeth…