Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Fy Nghaerdydd i

Jenny Randerson, AC

Jenny Randerson yw Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros ganol Caerdydd

Jenny Randerson, AM

Jenny Randerson AM

Fel yr Aelod Cynulliad dros Ganol Caerdydd ers i’r Cynulliad gael ei sefydlu ym 1999, a chyn Gynghorydd yng Nghaerdydd am 20 mlynedd, rwy’n falch iawn bod un o’r prifysgolion gorau un yn y DU (yn y byd a dweud y gwir) yn fy etholaeth i.

Rwy’n byw yng Nghaerdydd ers dros 30 mlynedd ac rwy wedi gweld y Brifysgol yn tyfu o ran ei maint a’i statws. Mae’n dod â bri mawr i Gaerdydd ac mae’n helpu i hybu Caerdydd ledled y byd, gan gyfrannu’n fawr at gyfoeth bywyd Caerdydd drwy ei myfyrwyr a’i staff sy’n dod o bedwar ban y byd.

Anrhydedd i mi yw cynnal Briffiadau rheolaidd y Brifysgol yn y Cynulliad, pan fydd Aelodau Cynulliad, eu swyddogion a’u staff yn bresennol. Mae’r rhain yn darparu toreth o wybodaeth, wedi’i seilio ar ymchwil ac arbenigedd sy’n llawn gwybodaeth, ac sy’n gallu helpu gwneuthurwyr polisi i sicrhau llywodraethu da i Gymru.

Darllen mwy o storïau ‘Fy Nghaerdydd’
Darllen mwy o storïau ‘Fy Nghaerdydd’
Calendr Digwyddiadau - Mwy o wybodaeth…