Fy Nghaerdydd i
Nicki Phillips
Mae Nicki Phillips, Dirprwy Ddeon Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Adran Ôl-radd yn yr ysgol honno wedi gweithio i’r Brifysgol ers deng mlynedd. …
Nicki Phillips
Des i weithio ym Mhrifysgol Caerdydd gyntaf yn 1998 ar ôl tua 15 mlynedd fel clinigwraig ffisiotherapi. Ar ôl gweithio mewn gwahanol swyddi, arbenigais mewn chwaraeon a threuliais y rhan fwyaf o’r blynyddoedd clinigol yn gweithio ym maes chwaraeon neu’n gwneud gwaith adfer yn y maes hwnnw. Roedd hynny’n cynnwys gemau rygbi lle treuliais lawer o brynhawniau Sadwrn glawog ar ymyl y maes. Roeddwn hefyd yn ddigon ffodus i weithio i fyny drwy’r rhengoedd a theithio gyda thimoedd i’r Gemau Olympaidd a Gemau’r Gymanwlad bob hyn a hyn. Mae’n fy nychryn faint o’r achlysuron hyn dwi wedi eu mynychu gyda chwe thaith i Gemau’r Gymanwlad a phum taith i’r Gemau Olympaidd. O gofio mai dim ond bob pedair blynedd y cân nhw eu cynnal, bu’r 20 mlynedd diwethaf yn rhai prysur iawn.
Erbyn diwedd y 90au ron i’n chwilio am sialens newydd yn fy ngyrfa ar ôl cwblhau fy MSc fel clinigwraig. Ron i wedi ymweld â’r Adran Ffisiotherapi bob blwyddyn ers talwm i addysgu'r elfen ffisiotherapi chwaraeon y rhaglen ffisiotherapi israddedig. Yn y diwedd ces fy mherswadio i ymuno â’r adran (neu'r ochr dywyll, sef academia, fel y caiff ei ddisgrifio gan rhai cydweithwyr clinigol) yn llawn amser gyda’r nod o gychwyn cwrs MSc ôl-radd mewn Ffisiotherapi Chwaraeon ar gyfer ffisiotherapyddion sy’n dymuno arbenigo yn y maes hwn. Ffactor arall a’m symbylodd ar y pryd oedd ceisio ateb rhai o’r cwestiynau clinigol oedd gen i am adferiad swyddogaethol mewn chwaraeon drwy waith ymchwil. Yna, cofrestrais ar gwrs PhD rhan amser gan raddio yn 2005.
Erbyn hyn, dw i’n rhannu fy amser academaidd rhwng arwain yr adran ôl-radd a addysgir, addysgu ar y cwrs Ffisiotherapi Chwaraeon a pharhau gydag ymchwil i reolaeth dros symudiadau yn dilyn damweiniau chwaraeon. Hefyd dwi’n cael fy allgontractio o Brifysgol Caerdydd am ddiwrnod yr wythnos gan Gyngor Chwaraeon Cymru fel rhan o fenter i ddatblygu cymorth ffisiotherapi i athletwyr Uchel eu Perfformiad yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.
Mae gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi caniatáu’r hyblygrwydd i mi gyfuno fy ymchwil a fy niddordebau addysgu, tra’n cynnal fy angerdd am fy ngwaith clinigol. Dwi’n ffodus iawn fy mod, ar y cyfan, yn gwneud y pethau rydw i’n eu mwynhau. Mae fy swydd, gan ei bod wedi’i rhannu rhwng meysydd gwahanol yn cadw fy niddordeb ac yn fy herio’n gyson. Yn ystod yr haf eleni teithiais i Beijing fel Prif Ffisiotherapydd Tîm GB, braint fawr i fod yn rhan o berfformiad mor llwyddiannus y tîm Olympaidd. Hefyd es i i’r India gyda thîm Ieuenctid Cymru yn y Gymanwlad fel rhan o’r paratoadau ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, Delhi yn 2010. Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gefnogol erioed, yn cydnabod fy mod, wrth sefydlu cysylltiadau â chymaint o fudiadau tu allan, yn hyrwyddo ei mentrau a’i hymglymiad arloesol.
Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a ddysgais dros y ddeng mlynedd yng Nghaerdydd wedi chwarae rhan bwysig iawn yn natblygiad fy rôl glinigol ym maes chwaraeon ar lefel uchel. Mae’r sgiliau uchel wedi bod yn amhrisiadwy wrth gynllunio ac asesu cymorth ffisiotherapi yn y prif gemau a bu’r Brifysgol yn fodd i gynorthwyo datblygu fy ngwaith gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru tuag at sefydlu gwaddol yn dilyn Gemau Olympaidd Llundain 2012. Rydw i’n falch o fod yn rhan o Brifysgol Caerdydd wrth iddi gyrraedd ei 125 mlwyddiant a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi helpu i sefydlu ei henw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.


