Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Fy Nghaerdydd i

Yr Is-ganghellor, Dr David Grant

Yr Is-ganghellor, Dr David Grant, 125ain cyfrannwr a chyfrannwr terfynol Fy Nghaerdydd, yn cofio rhai o’i adegau mwyaf cofiadwy yng Nghaerdydd ac yn siarad am ei falchder o gyflawniadadu’r Brifysgol.…

Yr Is-ganghellor, Dr David Grant

Yr Is-ganghellor, Dr David Grant

Mae fy mhrofiadau yng Nghaerdydd yn amrywiol a bywiogol - ac maent yn tyfu bob dydd. Efallai y bydd fy mhrofiad diweddaraf, llai nag awr yn ôl, yn egluro hyn. Treuliais heno mewn dosbarth meistri cyhoeddus dan arweiniad y Fonesig Kiri Te Kanawa ar gyfer myfyrwyr Academi Llais Ryngwladol Caerdydd (CIAV). O flaen cynulleidfa o fwy na 300 o bobl, anogodd a hyfforddodd y Fonesig Kiri y lefelau uchaf posibl o berfformiad gan fyfyrwyr sydd â’r potensial i fod y genhedlaeth nesaf o sêr opera rhyngwladol. Mae’r CIAV wedi’i hysbrydoli a’i harwain gan denor byd-enwog Caerdydd, Dennis O’Neill. Erbyn hyn yn ei thrydedd flwyddyn, mae’r Academi yn fenter unigryw i brifysgol yn y DU sy’n enghraifft, yn fy marn i, o ymdrechion Caerdydd am ragoriaeth ac arloesedd ym mhob dim a wnawn.

Mae arloesedd, boed ym maes ymchwil neu addysgu; cemeg, meddygaeth, hanes, cymdeithaseg neu berfformiadau opera, wrth wraidd fy mhrofiad o Gaerdydd. Cymerwch ddelweddu meddygol fel enghraifft. Yn dilyn yr uno rhwng UWCM a Phrifysgol Caerdydd yn 2004, rydym yn sefydlu cyfleusterau man eithaf y grefft. Rhaid i mi gyfaddef bod y cyfarpar delweddu ei hun yn apelio at fy niddordeb gydol oes mewn electroneg a thechnolegau perthynol; ond mae defnyddio’r cyfarpar hwnnw er mwyn astudio’r ymennydd dynol yn gweithio yn debyg o fod yn un o’r ymdrechion ymchwil mwyaf cyffrous a phwysig wrth i ni geisio trechu afiechydon gwanychol.

Pan ddechreuais yn y swydd yn 2001, roeddwn yn awyddus i annog mwy o fuddion o’n systemau technoleg gwybodaeth. Daeth hyn yn fwy o flaenoriaeth i mi ar yr adegau cyson hynny pan fyddai fy nghyfrifiadur personol yn y swyddfa yn peidio â gweithio. Nid wyf yn gwybod a oedd hwn yn gynllwyn pwrpasol i dynnu fy sylw at anghenion TG y Brifysgol ond roedd yn sicr yn helpu! Am resymau ymhell y tu hwnt i’m hanghenion cyfrifiadurol fy hun, mae’n bleser gennyf ddweud ein bod wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn TG. Mae gan fyfyrwyr gyfleusterau dysgu ar-lein gwell erbyn hyn, mynediad diwifr ledled y campws, ymrestru ar-lein a llu o fuddion eraill. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae gosod y cyfleusterau goruwch-gyfrifiadurol ARCCA ac estyn yr isadeiledd MWE (amgylchedd gwaith TG modern) arloesol, a fydd yn cael eu dilyn yn fuan gan brosiect systemau e-fusnes Arian, yn ein symud tuag at isadeiledd o’r radd flaenaf i gefnogi pobl o’r radd flaenaf.

Yr Is-ganghellor, Dr David Grant

Dr David Grant mewn seremoni raddio

Mae’r Brifysgol yn gymuned ffyniannus a chyffrous ac mae’n fraint gennyf fod yn aelod ohoni. Rwy’n cael pleser ac yn teimlo’n falch wrth weld ansawdd a chwmpas eithriadol ein gwaith; ac, wrth gwrs, fy rôl i yw annog a chefnogi ymdrechion gwell byth. Mae’r llwyddiant a welaf o ddydd i ddydd yn cael ei greu gan y bobl fwyaf dawnus yr wyf erioed wedi cael y fraint o weithio gyda nhw. Fel Is-ganghellor, rwy’n gweld rhagoriaeth yn ein haddysgu ac ymchwil, ac yn y cyfraniad enfawr a wnawn i gymdeithas a’r economi. Ar ôl perfformiadau operatig heno, ni ddylwn anghofio sôn am ein cyfraniadau diwylliannol ychwaith.

Mae hyd a lled yr ymchwil yng Nghaerdydd yn syfrdanol, ac mae’n bleser bod gydag ymchwilwyr mor ddawnus. Gallaf gadarnhau hefyd eu sgiliau addysgu rhagorol gan eu bod yn aml yn llwyddo i wella fy nealltwriaeth o lefel anwybodaeth i gychwyn i lefel dda o werthfawrogiad; a’r gallu i rannu eu cyffro. Hyn oll mewn meysydd astudio amrywiol, o dectoneg plât i fioleg celloedd heb anghofio’r Mabinogion!

Mae’n ddiddorol ystyried pa un o’r llawer o brofiadau fydd yn para hiraf yn fy nghof. Wrth fyfyrio, credaf mai’r ddelwedd o wynebau hapus darpar-raddedigion wrth i mi siglo eu dwylo yn y seremonïau graddio; eu hemosiynau’n dangos balchder yn eu cyflawniadau y maent yn eu mawr haeddu, ac efallai ychydig o ryddhad! Yn y saith mlynedd ar ôl dod yn Is-ganghellor, rwyf wedi cael yr anrhydedd o gyflwyno graddau a siglo llaw â mwy na 40,000 o fyfyrwyr sy’n graddio. Mae’n bosibl bod y rôl seremonïol hon i weld yn dasg syml ond gadewch i mi ddweud wrthych y bu fy seremoni raddio gyntaf yn dipyn o her.

Cyn uno UWCM a Phrifysgol Caerdydd, roedd yn draddodiad blynyddol i Is-ganghellor Caerdydd gyflwyno graddau yng nghynulliad blynyddol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cynhaliwyd y seremonïau hyn ychydig ddiwrnodau cyn seremoni’r Brifysgol, felly fy mhrofiad cyntaf o gyflwyno graddau oedd yn Neuadd Dewi Sant ym mis Gorffennaf 2002 ar gyfer myfyrwyr cerddoriaeth a drama.

Llwyddodd fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i’m paratoi’n dda. Er enghraifft, treuliodd tiwtor gwych ac amyneddgar iawn, yr Athro Robert Owen Jones, o Ysgol y Gymraeg, sawl awr yn fy mlwyddyn gyntaf yn fy helpu i ddatblygu rhai sgiliau iaith sylfaenol, gan nad wyf yn siaradwr Cymraeg naturiol. Gydag amser, dysgais ymdopi yn yr ystafell ddosbarth. Ond sut byddwn yn ymdopi ar lwyfan, yn gwisgo gwisg anghyfforddus, o flaen goleuadau llachar a dwy fil o bobl? Nid oeddwn wedi gorfod gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen, ac roeddwn yn nerfus iawn.

Ar ddiwrnod y cynulliad cyntaf, gyda’m pen-gliniau a’m llais yn crynu, symudais i ganol y llwyfan. Ger ymyl y llwyfan, roedd llinell o ddarpar-raddedigion yn aros i’w henwau gael eu galw allan er mwyn iddynt allu cerdded ar draws y llwyfan tuag ataf, codi eu capiau a siglo llaw â mi. Unwaith i’r seremoni gychwyn, roeddwn yn llai nerfus wrth i mi ganolbwyntio ar y dasg dan sylw. Erbyn i mi gyflwyno graddau ar bob un o’r cant o fyfyrwyr cerddoriaeth, roedd fy ngofidion ar y llwyfan wedi lleihau’n sylweddol.

Roedd y grwp nesaf o fyfyrwyr wedi astudio drama ac roedd fy rhythm yn llyfn wrth i mi godi fy nghap a siglo llaw â nhw. Yn sydyn, wrth i mi siglo llaw â’r degfed myfyriwr drama i gerdded ar draws y llwyfan, cefais deimlad brawychus. Teimlais fy hun yn cydio mewn llaw nad oedd bellach wedi ei gysylltu â braich. Roedd y fraich yn hongian wrth ochr y myfyriwr ac nid oedd llaw’n amlwg gan fy mod i’n ei ddal. Roedd y myfyriwr, gellid tybio mai actor oedd, wedi sicrhau bod y gynulleidfa wedi gallu gweld minnau’n tynnu ei law, a dechreuodd pawb chwerthin wrth i mi edrych i lawr ar y llaw plastr roeddwn yn ei siglo mor gadarn. Bu bloeddio helaeth yn y Neuadd pan dderbyniodd ei radd a’i law.

Rhyw wyth deg seremoni yn ddiweddarach, rwy’n dechrau ymlacio. Mae hyd yn oed “Athro mewn Fferylliaeth” yn llifo’n rhwydd. Mae seremonïau graddio yn rhan o dreftadaeth y Brifysgol a dyfodol y myfyrwyr. Nid yw siglo llaw â chwe mil o fyfyrwyr y flwyddyn yn waith beichus i mi gan ei fod yn peri i mi sylweddoli maint cyfraniad y myfyrwyr at fyd yfory a maint ein cyfraniad ni iddynt hwy.

Darllen mwy o storïau ‘Fy Nghaerdydd’
More ‘My Cardiff’ Stories…
Calendr Digwyddiadau - Mwy o wybodaeth…