Fy Nghaerdydd i
Roger Mansfield
Roger Mansfield, Athro Syr Julian Hodge mewn Rheolaeth a Deon a Phennaeth Dros Dro’r Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd, yn dwyn i gof ei 32 mlynedd yn y brifysgol.…
Roger Mansfield
Rwyf wedi bod ym Mhrifysgol Caerdydd ers 11 mlynedd. Mae pobl yn aml yn gofyn pam nad wyf wedi symud i rywle arall yn ystod fy ngyrfa, ac mae uwch academyddion llawn bwriadau da yn awgrymu bod gweithio mewn athrofeydd eraill yn ehangu eich ymennydd a’r gorwelion, yn ogystal â helpu eich gyrfa. Rwy’n meddwl am hynny cryn dipyn. A ddylwn i symud i athrofa arall? A ddylwn i adael Caerdydd i gael mwy o brofiad o’r byd? Yna, rwy’n cofio cymaint yr wyf wrth fy modd â Chaerdydd, y ddinas, y traethau, y mynyddoedd, fy nhy bach ger y parc ac un o’r siopau bara gorau erioed. Rwy’n meddwl am y bobl yr wyf yn gweithio gyda nhw ac rwy’n gwybod mai nhw yw’r goreuon yn yr hyn a wnânt ac yna rwy’n cofio pa mor lwcus yr wyf i fod yn gweithio gyda nhw.
I ddechrau, roedd fy mywyd yng Nghaerdydd braidd yn ansicr. Yn gyntaf, ni chefais y graddau yr oedd eu hangen arnaf yn fy arholiadau Safon Uwch i astudio’r cwrs gradd Astroffiseg. Wrth lwc, roedd y tiwtor derbyniadau yn ystyried myfyrwyr yn achosion unigol. Yna, yn ystod fy ail flwyddyn, anfonodd fy Nhiwtor Blwyddyn lythyr adref oherwydd fy absenoldeb parhaus, gan fygwth fy nhynnu allan o’r cwrs. Bu hyn yn llwyddiannus a sylweddolais fy mod am roi cynnig go iawn ar Astroffiseg. Nid oedd gennyf unrhyw beth i’w golli a dechreuais weithio’n galed, a po fwyaf yr oeddwn yn gweithio, po hawsaf yr oedd y cwrs. Cyn hir, roeddwn yn cael blas ar y cyfle i astudio pynciau yr oeddwn wedi breuddwydio amdanynt fel plentyn ifanc - ffiseg tyllau duon, y Glec Fawr a gronynnau sylfaenol a gwnaeth cael fy nysgu gan rai o’r enwau mwyaf yn y maes ledled y byd y ddwy flynedd olaf yn gyffrous iawn.
Nid oedd aros yn y brifysgol i astudio PhD yn ddewis naturiol. Fi oedd y cyntaf yn fy nheulu i ennill gradd, ac nid oeddem wedi arfer â meddwl am bethau fel astudio fel swydd amser llawn na gyrfa yn y byd academaidd - nid oeddwn yn hollol sicr beth oedd academyddion yn ei wneud hyd yn oed! Mewn gwirionedd, nid oeddwn yn ddigon hyderus i wneud cais. Y diwrnod cyn y cyfweliadau ar gyfer lleoedd PhD, aeth tiwtor ôl-raddedig â mi i un ochr a gofyn i mi fynd i’r cyfweliadau i roi cynnig arni. Darbwyllodd fi y dylwn i geisio mwynhau’r profiad, felly er fy mod yn nerfus, mi euthum beth bynnag a chael lle: dan oruchwyliaeth un o’r athrawon mwyaf carismatig, ecsentrig a hen ffasiwn yn yr adran (gyda gwallt gwyllt hefyd). Roedd yn fentor gwych ac roedd gweithio ochr yn ochr ag ef a rhai o’r staff iau a’r PDRA yn brofiad gwych. Fel rhan o fy PhD, teithiais i’r Mynyddoedd Creigiog yn Colorado a Hawaii i ddefnyddio rhai o’r telesgopau gorau yn y byd (gan feddwl o hyd “sut y daeth merch fach o’r Barri i reoli darn o offer sy’n werth miliynau o bunnoedd wrth eistedd ar losgfynydd marw ym mhen draw’r byd?”).
Wedi hynny, enillais gymrodoriaeth gyda Chomisiwn Brenhinol Arddangosfa 1851, a ddaeth gyda gwahoddiadau i wahanol ddigwyddiadau ym Mhalas Buckingham, gan gynnwys gwahoddiad i Arddwest y Frenhines (mi wrthodais wisgo het, er i mi gael fy ngorfodi i wisgo sgert) a gwahoddiad i gyflwyno fy ngwaith ymchwil i’r Tywysog Philip a chyn-ddisgyblion enwog mawreddog 1851. Ar ôl i ddiogelwch swyddogol Ei Fawrhydi roi gwybod i mi am yr arferion llym (gweler hanes Kelly BéruBé), llwyddais i dorri pob un; yn lle gwneud cyrtsi, fe ysgydwais ei law! Fe siaradais ag Ei Fawrhydi cyn iddo siarad â mi! Roedd y Tywysog Philip yn annwyl iawn, er iddo gerdded yn syth at fy ngwr (a ddaeth gyda mi fel ategolyn hudolus), gan dybio mai ef oedd yn cyflwyno’r gwaith ymchwil. Roedd yn braf ei fod i weld mor awyddus i hyrwyddo gwyddoniaeth ac roeddwn yn falch o fod yn eistedd yn yr ystafell gerdd ym Mhalas Buckingham gyda fy ngwr, yn yfed gwin blasus iawn.
Ar ôl y gymrodoriaeth, cefais fy mhenodi i wneud rhywfaint o addysgu israddedig yn ogystal â gwaith ymchwil. Rwy’n treulio cyfran sylweddol o fy amser yn addysgu ac rwy’n gobeithio yr wyf yn debyg i’r academyddion a helpodd fi i ddod mor bell; y rhai sy’n gwrando ar y myfyrwyr ac am eu helpu i ddysgu a datblygu tra’u bod nhw yma. Rwyf wrth fy modd yn rhyngweithio â’r myfyrwyr a’r ennyd yr wyf yn fwyaf balch ohono oedd ennill medal y “Darlithydd Mwyaf Gwahanredadwy” yn nawns ein cymdeithas myfyrwyr. Nid wyf yn siwr beth mae hynny’n ei olygu o hyd, ond roedd yn braf. Er fy mod yn ysu am gael swydd o 9 tan 5 o bryd i’w gilydd, rwyf wir yn mwynhau natur ddigymell bywyd fel Seryddwr. Y rheswm yr wyf yma’n gwneud y pethau hyn yw’r staff yng Nghaerdydd sydd wedi fy annog a fy helpu ar hyd bob cam o’r ffordd. Pobl yr wyf yn gweithio gyda nhw bob dydd. Hoffwn ddiolch iddyn nhw am gymryd y ferch benboeth leol hon a gwneud iddi deimlo ei bod yn gallu gwneud hyn!


