Fy Nghaerdydd i
Kenneth Nelson
Roedd y Capten Kenneth Nelson (a.k.a. Skip) yn fyfyriwr yma yn y 1940au. Ers 1950 bu’n byw ym Melbourne, Awstralia. Mae Ken yn gefnogwr brwd o’r Brifysgol; mae’n cyfrannu’n rheolaidd i Gronfa Ysgoloriaeth Nelson, sy’n cynnig bwrsariaeth i fyfyrwyr yr Ysgol Beirianneg, ac yn fwy diweddar bu’n noddwr i’r Llyfrgell Trevithick newydd. …
Capten Kenneth Nelson
Wrth i mi fyfyrio yn Awstralia am fy nyddiau yng Nghaerdydd ryw chwe deg o flynyddoedd yn ôl, daeth dywediad gan James Barrie i’m cof - ‘Rhoddodd Duw ein cof i ni fel y byddem yn gallu cael rhosynnau Mehefin yn Rhagfyr ein bywydau’.
Ym mis Medi 1941, fel Myfyriwr Rhif 14434, cychwynnais ar fy nghwrs peirianneg sifil ym Mhrifysgol Caerdydd. O edrych yn ôl, roedd 1941 yn flwyddyn ddramatig i Brydain yn Yr Ail Ryfel Byd. Ar ddechrau’r flwyddyn roedd grym yr Almaen ar ei anterth. Roedd holl Gynghreiriaid Prydain yn Ewrop wedi eu gorchfygu ac yn llawer o’r gwledydd hyn roedd gwleidyddwyr ffasgaidd mewn grym ac wedi mabwysiadu agwedd gwrth Brydeinig o blaid yr Almaen. Y mwyaf ffiaidd o’r cydweithredwyr hyn oedd Pétain a Laval yn Ffrainc a Quisling yn Norwy.
Ym mis Medi 1940 penderfynodd Hitler fomio Prydain nes iddi ildio. Profwyd llwyddiant y dacteg hon mewn gwledydd eraill eisoes. Roedd gan yr Almaen 3,000 o awyrennau’n barod ar gyfer y dasg hon. I fynd i’r afael â’r grym hwn dim ond 800 o awyrennau ymladd oedd gan Brydain. Prif nod gyntaf y Luftwaffe oedd Llundain a’i dociau. Ymosodwyd ar y ddinas am 76 noson yn olynol gydag ond un noson o seibiant. Y noson waethaf oedd 11eg Mai 1941 pan gafwyd ymosodiad hynod o ffyrnig gan 550 o fomwyr yr Almaen, gan ladd dros 1,400 o bobl. Yn ystod y Blitz roedd y staff a’r myfyrwyr a gafodd eu mudo o golegau Llundain yn westeion Prifysgol Caerdydd. Yn fuan ar ôl hyn cafodd llawer o ddinasoedd taleithiol eu bomio. Roedd Caerdydd yn darged pwysig oherwydd y nifer fawr o ddociau mawr oedd yno gan gynnwys dociau Queen Alexandra a oedd yn fyd-enwog. Roedd y dociau’n dadlwytho nifer fawr o arfau a bwyd o ochr arall i Fôr yr Iwerydd. Bellach, er mwyn gostwng eu colledion, roedd y Luftwaffe yn canolbwyntio ar gyrchoedd nos; roedd hyn yn golygu bomio llai cywir ac o ganlyniad roedd mwy o golledion sifil.
Yn ystod y cyrchoedd awyr hyn ar Gaerdydd cafodd llawer o adeiladau cyhoeddus a thai preifat naill ai eu difrodi’n ddifrifol neu eu difetha’n llwyr. Nid oedd ein Prifysgol yn eithriad. Trwy gydol y Blitz roedd timau o fyfyrwyr a staff wrthi ar ddyletswyddau ymladd tân yn y Brifysgol. Cyfrifioldeb y timau hyn oedd diffodd y bomiau tân; y perygl mwyaf iddynt oedd y bomiau ffrwydr-uchel a oedd yn cael eu gollwng ar yr un pryd. Y noson waethaf o ran ymladdwyr tân y Brifysgol oedd 26 Chwefror1941, pan ollyngwyd pump o fomiau ffrwydr-uchel ar dir y Brifysgol; syrthiodd un ohonynt yn uniongyrchol ar Undeb y Myfyrwyr. Anafwyd pump o’r ymladdwyr tân, a bu farw un ohonynt y diwrnod canlynol. Aeth yr Almaen mewn i Rwsia ar 22 Mehefin 1941 ac arafodd dwyster y bomio er i’r cyrchoedd barhau o hyd. (Erbyn diwedd y rhyfel lladdwyd 60,595 o bobl mewn cyrchoedd awyr ym Mhrydain).
Roedd gennym lochesau cyrch awyr cyhoeddus a llochesau ar gyfer tai preifat yng Nghaerdydd. Yn ein llety yn 114 Colum Road roedd gennym loches dan do, sef lloches ‘Morrison’, a gafodd ei enwi ar ôl yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd. Roedd wedi ei wneud o flwch â ffrâm dur gyda thop o ddur trwchus. Roedd wedi ei leoli yn ein hystafell frecwast. Yn ystod y cyrchoedd nos roedd ein landledi, Miss Phillips, a’i chwaer yn cysgu yn y lloches Morrison ac roedden ni, y pump myfyriwr, yn llochesu dan y grisiau.
Ar 7 Rhagfyr 1941, heb gyhoeddi unrhyw ryfel, ymosododd Japan ar Pearl Harbour. Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, cyhoeddodd yr Almaen a’r Eidal ryfel ar yr Unol Daleithiau. Felly daeth Prydain i ddiwedd y flwyddyn ddramatig 1941, â dau gynghreiriad newydd ac un gelyn newydd.
Yn y cyfamser roeddem yn mynychu darlithoedd ac yn gweithio ar ein hastudiaethau gorau ag y gallem. Yn ystod y flwyddyn daeth yr Athro W. Norman Thomas, a gafodd secondiad i ddyletswyddau arbennig yn y rhyfel, yn ôl i roi darlith ar gynllunio ac adeiladu llochesau cyrch awyr cyhoeddus.
Ar ddiwedd blwyddyn academaidd 1941-42 derbyniais Wobr Page mewn Peirianneg. Wedyn ymrestrais, gyda’r Llu Awyr yn y lle cyntaf, ond cefais fy nghomisiynu i’r Fyddin yn ddiweddarach. Treuliais dair blynedd yn y Dwyrain Pell - dwy ym Murma yn ystod y rhyfel ac un ar ddyletswydd gwarchodlu yn Singapore ar ôl y rhyfel.
Dychwelais i Brifysgol Caerdydd ym mis Mawrth 1947; roedd yn braf cwrdd â llawer o hen ffrindiau unwaith yn rhagor, yn fyfyrwyr ac yn staff fel ei gilydd. Er mawr dristwch, bu farw nifer o hen ffrindiau yn y rhyfel. Un ohonynt oedd ‘Pete’ Mullett; fe’i lladdwyd wrth hedfan yn yr R.A.F. Roedd Pete yn aelod poblogaidd iawn o’n tîm ymladd tân yng Nghaerdydd ym 1941.
Yn raddol dychwelodd pawb a fu yn y fyddin i’w hastudiaethau unwaith yn rhagor. Un fraint a roddwyd i ni oedd caniatâd i ysmygu yn ystod ein harholiadau. Fel un a smygai pib yn selog, fe bwffiais fy ffordd drwy’r arholiadau.
Fe etifeddom Gymdeithas Beirianwyr gan hen filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Gymdeithas yn trefnu darlithoedd, ciniawau diwedd y flwyddyn a nosweithiau smygu. Y nosweithiau smygu oedd fwyaf poblogaidd, roeddent yn nosweithiau o hwyl ac roedd y peirianwyr, fel arfer, yn gallu cynhyrchu nifer o ganwyr talentog.
Ar ddiwedd ein cwrs ym 1949 argymhellodd yr Athro W. Norman Thomas, CBE dri ohonom (Graham Jones, Peter Rowley a finnau) ar gyfer swyddi peirianneg i Gomisiwn Dwr Victoria yn Awstralia. O ganlyniad i hyn treuliais weddill fy ngyrfa’n cynllunio ac yn adeiladu argaeau ar gyfer prosiectau dyfrhau.
Yn ystod fy mlwyddyn olaf yng Nghaerdydd deuthum yn ymwybodol o’r tebygrwydd rhwng fy ngyrfa i a gyrfa fy nhad - nid oedd hyn yn fawr o syndod. Astudiodd y ddau ohonom yn Yr Hen Goleg yn Heol Casnewydd. Cychwynnodd fy nhad ei gwrs ym 1914 fel Myfyriwr Rhif 5442. Ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf ymrestrodd yn y Fyddin. Ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf orffen ym 1918; dychwelodd i’w astudiaethau yng Nghaerdydd.
Yr Athro Peirianneg ar y pryd oedd Frederic Bacon; roedd yn pwysleisio pwysigrwydd ysgrifennu papurau technegol ac adroddiadau yn fynych i’w fyfyrwyr. Gorffennodd fy nhad ei gwrs ym 1920 ac erbyn hynny roedd ganddo awch am ysgrifennu. Erbyn ei farwolaeth ym 1969 roedd wedi cyhoeddi dros 300 o erthyglau technegol a phum llyfr.
Flynyddoedd yn ddiweddarach sylweddolais fy mod wedi etifeddu peth o frwdfrydedd fy nhad am ysgrifennu. Rwyf wedi cyhoeddi 50 erthygl a phum llyfr. Mae fy ngwaith diwethaf sef The Dictionary of Water Engineering (2005) i’w gael yn Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.
Canlyniad pwysig i’m holl weithgaredd ysgrifennu oedd i mi gyfarfod, mewn cynhadledd, fy ngwraig Shirley, meddyg a oedd ar y pryd yn Gyfarwyddwr Radioleg yn Ysbyty’r Tywysog Henry, Melbourne. Ysgrifennodd a gweithiodd fel meddyg dan ei henw cyn priodi, sef Shirley Roberts. Cyhoeddodd bedwar llyfr bywgraffyddol, pum bywgraffiad byr yn y Journal of Medical Biography a dau gofnod yn y New Dictionary of National Biography.
Mae’n amlwg bod ysgrifennu wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd proffesiynol a’m bywyd domestig fel ei gilydd. Gellir olrhain hyn yn ôl i’m tad a’r dyddiau cynnar yng Nghaerdydd pan anogwyd ef gan yr Athro Frederic Bacon i ddatblygu ei sgiliau ysgrifennu. Roedd yn dda gennyf glywed ym 1993 bod Prifysgol Caerdydd wedi sefydlu ysgoloriaeth beirianneg yn enw fy nhad.


