Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Fy Nghaerdydd i

Dennis Sellwood

Dennis Sellwood, myfyriwr yng Nghaerdydd yn ystod y pumdegau yn ail-fyw'r dydd pan anerchwyd Cymdeithas Saesneg y Brifysgol gan Dylan Thomas…

Dennis Sellwood

Dennis Sellwood

Yn ystod y pumdegau cynnar roeddwn i'n fyfyriwr israddedig yng Nghaerdydd. Achlysur cofiadwy yn y Brifysgol oedd y darlleniad a roes Dylan Thomas i'r Gymdeithas Saesneg ym mis Mawrth 1953.

Y peth a'm trawodd gyntaf amdano oedd ei drwch: ei goesau trwchus, ei gorff trwchus a'i ben trwchus. Roedd ganddo wyneb coch a mop o wallt cyrliog ac wrth eistedd roedd ganddo dipyn o dagell o dan ei ên. Roedd yn gwisgo siwt las a chrys â sgwariau ac roedd ei goler, er ei fod heb ei fotymu, heb gael ei droi i lawr dros y got. Roedd y graddau hyn o anffurfioldeb yn dipyn bach o sioc i'm cenhedlaeth i o fyfyrwyr! Wrth eistedd ar y llwyfan a disgwyl i'r Llywydd orffen datganiadau a chyflwyniadau'r Gymdeithas roedd ei wyneb yn dangos ôl blinder neu ddiflastod. Pe na bai e'n gymaint o destun edmygedd byddai dyn wedi meddwl mai pwdryn a ddaliai'r sigaret yn y fath fodd yng nghornel y geg.

Ni wnaeth sylw o'r gymeradwyaeth a gafwyd wedi'r cyflwyniad ond aeth ati ar ei ben i ymosod mewn modd digrif ac anhygoel ar yr hyn a alwyd yn "fwlturiaid diwylliannol" yr Unol Daleithiau; ond nid nhw yn unig a fu dan lach ei ffraethineb - am bob math o ragrith llenyddol a chymdeithasol, yn enwedig y cyfoethogion. Roedd ardull y darn hwn yn llawn cyflythrennu, rhythm a chwarae ar eiriau. Nid oedodd Thomas unwaith rhag i'n chwerthin lyncu'r ymadrodd nesaf; darllenodd fel pe na baem ni yno.

Pan orffennodd y darn dywedodd wrthym nad oedd ond yn gyflwyniad eithaf hir i'r cerddi o'r Unol Daleithiau yr oedd am eu darllen. Bwriad ei ddetholiad o gerddi oedd, dybiwn i, rhoi syndod inni; roeddent oll ychydig bach yn anghyffredin. Roedd dwy gan Ezra Pound, dwy gan Edwin Arlington Robinson, ac un gan Auden a dderbyniodd gymeradwyaeth ddigymell a dwy gan Robert Graves.

Gorffennodd drwy ddarllen darn hir o ddrama mewn llawysgrif nad oedd ond ei chwarter yn barod. Byddai'n digwydd, meddai ef, yn ystod cyfnod o 24 awr ac roedd y darn a ddarllenwyd ganddo yn ymwneud â breuddwydion nifer o gymeriadau, sef trigolion pentref bach ar lan y môr yng Nghymru. Ysgafn a dychanus, ac nid ffyrnig fel ei ddarn cyntaf, oedd natur yr arddull, gan wneud sbri am ben dibwysedd rhai o gymeriadau'r pentref.

Ei unig ymateb i'n cymeradwyaeth dwymgalon oedd codi unwaith neu ddwy o'i gadair gan wenu'n swil iawn a sibrwd 'Thank you'. Golwg swil a oedd arno erbyn hyn.

Pan ddaeth y cyfarfod i ben gwelais Thomas yn gaeth ar y llwyfan ynghanol edmygwyr, felly i ffwrdd â mi ar frys i nôl fy nghopi o'r Collected Poems ac ymuno â'r grwp a arhosai amdano gyda'u copïau hwythau. Roedd yn gwrtais iawn. Mae'n rhaid ei fod yn credu ein bod ninnau'n fwlturiaid diwylliannol ond atebodd bob cais â 'Most delighted...you're most kind.'

Dysgais flynyddoedd lawer wedyn wrth ddarllen y Collected Letters fod Dylan wedi gadael llawysgrif Under Milk Wood yng Ngwesty'r Parc lle y bu'n aros dros nos i ffwrdd o'i gartref yn Nhalacharn. Danfonodd at lywydd y Gymdeithas i ofyn iddo gael y copi yn ôl iddo. Dro arall gadawodd ef y copi mewn tafarn yn Soho!

Darllen mwy o storïau ‘Fy Nghaerdydd’
More ‘My Cardiff’ Stories…
Calendr Digwyddiadau - Mwy o wybodaeth…