Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Fy Nghaerdydd i

Carol Floris

Graddiodd Carol Floris o Brifysgol Caerdydd ym 1989 a hi yw Rheolwr Cyngor a Chymorth Voices From Care. …

Carol Floris

Carol Floris

Ym 1986 deuthum i Brifysgol Caerdydd, heb adnabod unrhyw un a braidd yn ofnus. Nid oeddwn yn ei sylweddoli ar y pryd ond roedd yn weddol anarferol i rywun a oedd wedi treulio ei phlentyndod yn byw mewn cartrefi plant a gofal maeth ddod i brifysgol. Yn ariannol ac yn emosiynol, roedd pethau’n anodd ar adegau. Fodd bynnag, yn neuaddau’r Brifysgol, lle arhosais yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, gwnes i rai ffrindiau da iawn. Roedd Prifysgol Caerdydd i weld yn denu amrywiaeth o bobl a dyma un o’r troeon cyntaf i mi deimlo y gallwn fod yn fi heb fod pobl yn gorfod gwybod am fy nghefndir, oni bai fy mod am ddweud wrthynt.

Roeddwn am ddod i Brifysgol Caerdydd oherwydd nad oeddwn yn gwybod yn iawn beth roeddwn am ei astudio ac, yn y flwyddyn gyntaf, roedd yn bosibl astudio 3 phwnc – Cymdeithaseg, Lladin a Hanes. Peidiais ag astudio Hanes yn yr ail flwyddyn. Roedd gennyf awch am Gymdeithaseg – dysgu’r holl ddamcaniaethau am gymdeithas a’r byd rydym yn byw ynddo.

Penderfynais aros yng Nghaerdydd gan fy mod yn caru’r ddinas - mae’n gyfeillgar a llawn prysurdeb, ynghyd â bod yn gyfleus ar gyfer mynd i gefn gwlad neu’r traeth. Rwyf yn dal i ddod o hyd i leoedd newydd hyd yn oed nawr.

Euthum ymlaen i astudio M.Sc.Econ mewn Astudiaethau Merched ac, unwaith eto, cyfarfûm â llawer o bobl wahanol. Roedd hwn yn gwrs rhan-amser ac roeddwn yn gweithio gyda’r henoed a phobl anabl yn eu cartrefi eu hunain ar yr un pryd.

Ers hynny, rwyf wedi gweithio i gefnogi ac ymgyrchu dros blant a phobl ifanc mewn gofal, gan godi ymwybyddiaeth o’u hawliau a’u potensial. Yn fy rôl bresennol gyda Voices From Care, rwyf wedi gweithio gyda’r Gwasanaethau Cefnogi ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n datblygu eu cefnogaeth i’r rhai hynny sy’n gadael gofal er mwyn eu cynorthwyo ym maes addysg uwch.

Braint oedd i mi gael dod i Brifysgol Caerdydd a pharhau i chwarae rhan yn yr addysg a’r cyfleoedd sydd ar gynnig. Ymgymerais â chwrs byr yn ddiweddar yn archwilio hawliau dynol yn yr Adran Dysgu Gydol Oes a bu i mi fwynhau hyn yn fawr iawn. Gobeithiaf ymgymryd â chyrsiau eraill yn y dyfodol a gobeithiaf y caiff Prifysgol Caerdydd 125 o flynyddoedd llwyddiannus eraill er mwyn i lawer o bobl allu mwynhau’r buddion sydd ganddi i’w cynnig.

Darllen mwy o storïau ‘Fy Nghaerdydd’
More ‘My Cardiff’ Stories…
Calendr Digwyddiadau - Mwy o wybodaeth…