Mae staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a ffrindiau’n rhannu eu hatgofion a’u storïau am y Brifysgol. Cliciwch ar lun i ddarllen y stori lawn.
Don Eliseo Lucero-Prisno
Gwnaeth fy amser yng Nghaerdydd argraffu ar fy meddwl beth yw gwir ystyr addysg – i ddefnyddio ein dysg er mwyn gwella bywyd pobl eraill…
Captain Kenneth Nelson
Yn ystod y cyrchoedd awyr hyn ar Gaerdydd cafodd llawer o adeiladau cyhoeddus a thai preifat naill ai eu difrodi’n ddifrifol neu eu difetha’n llwyr. Nid oedd ein Prifysgol yn eithriad. Trwy gydol y Blitz roedd timau o fyfyrwyr a staff wrthi ar ddyletswyddau ymladd tân yn y Brifysgol…
Glenys Kinnock
Ni wnaeth y ‘ddinas fawr’ siomi, fodd bynnag, a dyma fy mwrw fy hun ar fy mhen i wleidyddiaeth myfyrwyr…
Yr Athro Syr Martin Evans a’r Foneddiges Judith Evans
Mae’r Brenin yn cyflwyno diploma i bob enillydd mewn testun caligraffig wedi ei osod mewn lledr coch a medel aur ysgythredig wedi ei gwneud o aur gwyrdd 18 carat gyda wyneb o aur 24 carat drosti…
Yr Athro Patricia Price
fel un o bump o ferched, roedd fy rhieni wedi dweud yn glir mai drwy gael grant llawn yn unig y gallwn fynd i’r brifysgol!”…
Saleem Kidwai
Rwyf wedi breuddwydio am fod yn rhan o’r Brifysgol erioed. Yn 2007, cefais i’r fraint o fod y Moslem cyntaf i gael fy ngwobrwyo â chymrodoriaeth anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd…
Louise Casella
Dyw ymdeimlad Caerdydd o gymuned erioed wedi cael ei golli, ac eto i gyd erbyn hyn mae gennyn ni gysylltiadau byd-eang ac ehangder diddordeb sy’n ein rhoi ni mewn cysylltiad go iawn â’r byd.” …
David Jones
David Jones un o raddedigion Ysgol y Gyfraith Caerdydd yn ail fyw ei ddyddiau cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn datgelu’r cyfeillgarwch gydol-oes a ddechreuodd yno
Yr Athro Jonathan Shepherd
Cyrhaeddais i Gaerdydd yn Hydref 1991, ac eisiau gwneud rhywbeth am y llif diddiwedd ymddangosiadol o ddioddefwyr anafiadau wyneb a oedd yn diweddu ar fordydd llawdrin y GIG ar ôl noson o yfed…
Judith Hall
Pan ddysgodd Dr Judith Hall o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol fod mamau yn Affrica 80 gwaith yn fwy tebygol o farw wrth roi genedigaeth na’r rhai hynny mewn gwledydd datblygedig, penderfynodd fod yn rhaid iddi wneud rhywbet…
Yr Athro Bryan Jones
Mae wedi bod yn destun boddhad mawr i weld Caerdydd yn trawsnewid o fod yn goleg bach â 1,000 o fyfyrwyr 50 mlynedd yn ôl, i’r Brifysgol fawr hon â 26,000 o fyfyrwyr, ac yn goleg sydd wedi ennill bri rhyngwladol mewn cymaint o feysydd, ac sydd bellach ymhlith 100 prifysgol uchaf y byd…
Nelson Turgo
Y gwir amdani yw, dwi ddim yn gwybod pa lyfr i’w ddarllen: mae yna doreth o rai gwych …
Les Rees
Cynhaliodd y Deon Nyrsio a minnau'r seremoni yn Gymraeg ar gyfer grwp o nyrsys ôl-radd Iseldireg a oedd wedi drysu braidd cyn mynd allan i ddathlu "Carnifal".…
Dr Victor Oyaro Gekara
Rwy’n cofio eistedd yn y seremoni raddio a theimlo’n rhan o rywbeth mawr. Rwyf wastad wedi meddwl am Gaerdydd felly, ac erbyn hyn rwy’n falch o’i galw’n ‘fy Mhrifysgol i’.…
Rachel Bentham
Cyn gynted â dw i’n camu oddi ar y trên yn Cathays a dechrau cerdded trwy’r campws, dw i’n dechrau amsugno awyrgylch o gymhwyso digyffro a pharch cilyddol…
Yr Athro Geoff Wainwright
Roedd fy mywyd cymdeithasol bellach wedi’i gyfyngu i’m hoffter o archaeoleg. Roedd fy ngyrfa rygbi ar ben, ond fe wnes i iawn am hyn trwy ddod yn gefnogwr teithiol o’r tîm polo dwr merched…
Isabelle Durance
Mae angen i ni wneud gwahaniaeth nawr i’r byd lle rydym yn byw, ond hyd yn oed yn fwy i’r byd rydym yn ei drosglwyddo i’n plant.
William Wilkins
Credaf mai'r hyn a fu'n unigryw imi yn fy mherthynas â'r brifysgol, ac a fydd, gobeithio, yn parhau i fod yn unigryw, yw bod gennyf ystod mor eang o gyfeillion a chydnabod‘bell’…
Y Parchedig Gareth Powell
Prin fod ots bod y trên wedi torri i lawr ym Mhen-y-bont, achos y rhagolygon, y newydd-deb oedd yn holl-bwysig – heb sôn am y cyfle i fynd ar drên oedd fel pe bai’n rhan o’r dyfodol ‘bell’…
Yr Athro Anthony Campbell
Roedd fy nghydweithwyr meddygol yn meddwl fy mod yn wallgof. Roeddent yn meddwl ein bod wedi dod o Gaergrawnt i ddatblygu dulliau clinigol newydd a deall mecanweithiau clefydau, a dyna lle roeddwn ar y traeth yn casglu anifeiliaid a oedd yn gollwng golau.
Percival Hugh Powell
Atgof o wahanol fath oedd pan ddaeth Edward, Tywysog Cymru, i’r brifysgol ar achlysur dadorchuddio cerflun ohono ef a’i dad, y Brenin Siôr V, ar ochr orllewinol yr hen adeilad. Rwy’n cofio un myfyriwr yn gweiddi “Helo, Eddie!” - ac nid oedd y Tywysog yn hapus o gwbl ynglyn â hynny.
Gwyneth Stroud
Mae’r ddau ohonom, wrth gwrs, yn cofio dathliadau’r canmlwyddiant ym 1983, sef y flwyddyn i ni raddio…
Tamsin Carey Lang
Rwyf bob amser yn synnu pa mor dda yr adwaenir y Brifysgol yn rhyngwladol a’r brwdfrydedd sydd gan gyn-fyfyrwyr sy’n ein helpu yn aml gyda’n hymweliadau…
Susmita Bhattacharya
ROnd y darn gorau o’n arhosiad yma oedd, wrth gwrs, genedigaeth ein baban tlws, Rohini…
Dr Verner Bickley, MBE
Roedd y darlithoedd yn ddiddorol, er bod rhai aelodau o’r staff ar benodiadau dros dro, gan fod llawer o’r ‘criw rheolaidd’ ymaith ar wasanaeth rhyfel…
Roger Lewis
Mae Roger Lewis, Prif Weithredwr Grwp Undeb Rygbi Cymru yn esbonio sut mae cael Cymrodoriaeth Anrhydeddus gan y Brifysgol wedi rhoi cyfleoedd newydd cyffrous iddo.…
Vivian Zhou Wei
Yn ystod yr arhosiad blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r rhestr o’r “troeon cyntaf yn fy mywyd” yn un hir iawn.
Sheila Hunt
Mae’r Athro Sheila Hunt, Deon a Phennaeth yr Ysgol Nyrsio ac Astudiaethau Bydwreigiaeth, yn diolch i Gaerdydd am ehangu ei byd.…
Elaine Morgan
Pe byddech wedi bod yn Heol Aberffrwd ar Orffennaf 17 2007, byddech wedi gweld dim llai na Mercedes Benz, yn cyrraedd…
Jane Boggan
Allwn i ddim cymharu’r ymdeimlad o lwyddiant ag unrhyw beth yr oeddwn wedi ei brofi hyd y pwynt hwnnw ac nid oeddwn am adael…
Neil Kinnock
Sefydliad sydd arnaf gymaint iddo, yn wir, dim ond fy rhieni sydd wedi cynnig cyfleoedd gwell i mi…
Yr Athro Steve Ormerod
Roedd yn berchen ar lyfr ‘I-spy birds’, ac felly roedd yn arbenigwr. Lle'r oedd fy nhad yn chwarae criced i dîm y ffatri, fe ddangosodd i fi sut roedd y tirmon yn gadael drws y sied dractor yn gil agored bob gwanwyn er mwyn i’r gwenoliaid nythu yn y trawstiau pren…
Abigail Carter
Mae gan Brifysgol Caerdydd gymaint i’w chynnig a hoffwn pe bai myfyrwyr yn deall cymaint y gall y Brifysgol helpu. Nid yw’r gefnogaeth yn dod i ben wrth raddio.…
Rob Sidoli
Rob Sidoli, a raddiodd yng Nghaerdydd ac sy’n chwarae rygbi dros Gleision Caerdydd yn cofio am ei ras foreol i ddal ei ddarlithiau, temtasiwn brecwast o gig moch ac ?y a’r staff cefnogol ar ac oddi ar y maes.
David R Williams OBE
Pan fydd y Prif Farsial wedi dangos i’r graddedigion sut i groesi’r llwyfan, ysgwyd llaw, tynnu het, ac – i’r newydd ddyfodiaid i broffesiynau gofal iechyd – cadarnhau’r llw meddygol, ac wedyn wedi arwain yn y ddwy orymdaith, mae’r gwaith heriol go iawn yn dechrau
Yr Athro Mike Rowe OBE
Arddangoswyd y generadur prototeip am y tro cyntaf ar GMTV yn pweru teledu gan ddefnyddio dwr gwastraff o’r bath gyda minnau’n esbonio’r dechnoleg wrth eistedd yn y bath
Y Dr John Jewell
Y Dr John Jewell o’r Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant sy’n sôn am ei fywyd fel myfyrwyr israddedig a’r Brifysgol heddiw
Sarah Day
Wrth wirfoddoli roedd modd i mi wneud gwahaniaeth bach i rywun bregus ac unig, dim ond drwy roi ychydig oriau o’m hamser …
Yr Is-ganghellor, Dr David Grant
Mae’r llwyddiant a welaf o ddydd i ddydd yn cael ei greu gan y bobl fwyaf dawnus yr wyf erioed wedi cael y fraint o weithio gyda nhw. Fel Is-ganghellor, rwy’n gweld rhagoriaeth yn ein haddysgu ac ymchwil, ac yn y cyfraniad enfawr rydym yn ei wneud i gymdeithas a’r economi
Ning Li
Rydych yn clywed newyddiadurwyr ac ysgolheigion o amgylch y byd yn dweud mai Caerdydd yw’r lle gorau i astudio newyddiaduriaeth…
Dominic Hannigan
Efallai mai’r hyder sydd gan ddinas fechan ydyw, neu’r cyfleoedd na all ond prifddinas eu cynnig…
Yr Athro Len Noke
Fi fydd meddyg tîm pêl-droed Dinas Caerdydd yn erbyn Portsmouth yn rownd derfynol Cwpan yr FA…
Ankit Jain
Astudio yng Nghaerdydd oedd yr allwedd i’m haddysg i ac fe fu’n help i loywi fy mhersonoliaeth…
Sandra Bonney
Roedd yna hysbyseb ar fewnrwyd y Brifysgol yn hybu cwrs carlam dwys dros 12 wythnos i ddysgwyr ac roeddwn i’n meddwl bod hwn yn gyfle rhy dda i’w golli
Martyn Fowler
Ymunodd Martyn Fowler, y Pennaeth Rygbi, â Phrifysgol Caerdydd yn 2002. Ymhlith ei gampau y mae arwain tîm rygbi Prifysgol Caerdydd at dair buddugoliaeth yn erbyn Abertawe
Darllen y storïau ‘Fy Nghaerdydd’ yn eu trefn gronolegol..












































































