Skip to content
Skip to navigation menu

English

Dathliad Clasurol

20 Hydref 2008

Sight of Emotion

Cafodd pen-blwydd y Brifysgol yn 125 oed ei ddathlu mewn steil gyda chyngerdd gala fawreddog yn cynnwys sêr opera rhyngwladol a ffanffer a grëwyd yn arbennig.

Cynhaliwyd y gyngerdd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac fe’i harweinwyd gan y tenor byd enwog Dennis O’Neill, a’r soprano Rebecca Evans, sydd wedi ennill gwobr Grammy. Perfformiodd y ddau rai o hoff ddarnau cerddoriaeth clasurol ac operatig y byd, gan gynnwys darnau gan Puccini a Verdi.

Agorwyd y gala gan deyrnged ffanffer a grëwyd yn arbennig ar gyfer y Brifysgol - Caerdydd 125 - a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr rhynglwadol blaenllaw a chyn fyfyriwr yng Nghaerdydd, Karl Jenkins.

First Minister for Wales Rhodri Morgan

Dennis O’Neill a Rebecca Evans yn perfformio

Roedd myfyrwyr y gorffennol a’r presennol o Academi Llais Ryngwladol Caerdydd y Brifysgol ar y llwyfan hefyd, ynghyd â Chor Siambr clodwiw yr Ysgol Gerdd.

Yn ystod y gyngerdd hefyd cafwyd première byd Somewhere Unknown, sef symudiad symphonig gan Liz Lane, myfyrwraig is-raddedig yn yr Ysgol Gerdd.

Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru oedd yn cyfeilio i bob un o’r artistiaid a chafodd y digwyddiad ei noddi’n garedig gan Bartneriaeth Dewi Sant.

Gellir gweld ffotograffau o Gyngerdd Gala 125 ar: http://www.caerdydd.ac.uk/125/news/gala-concert.html

Calendr Digwyddiadau - Mwy o wybodaeth…