Lansiad Blwyddyn Pen-blwydd Prifysgol
Caerdydd yn 125 mlwydd oed.
24 Ionawr 2008
Lansiad dathliadau pen-blwydd y Brifysgol
yn 125 mlwydd oed gyda goleuadau trawiadol ar y Prif Adeilad a negeseuon o gefnogaeth am 125 o flynyddoedd o lwyddiant ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ym 1883, teyrnasodd y Frenhines Fictoria dros chwarter y byd, roedd Robert Louis Stevenson yn creu cynnwrf gyda Treasure Island, enillodd Blackburn Olympic Gwpan yr FA a chanwyd y clychau i nodi cychwyn Prifysgol Caerdydd. Roedd ganddo staff o 13, 151 o fyfyrwyr, incwm ac adnoddau prin ac fe'i gweithredwyd o hen adeilad a fu gynt yn ysbyty.
Heddiw mae gan y Brifysgol 6,000 o staff (gan gynnwys dau enillydd gwobr Nobel), 26,000 o fyfyrwyr, adeiladau neilltuol a chyfleusterau yng nghanolfan ddinesig y ddinas a champws Parc y Mynydd Bychan, trosiant blynyddol o £370M, a lle ymhlith 100 prifysgol gorau’r byd. Mae’n un o ugain prifysgol ymchwil uchaf Gr?p Russell Prydain a newydd ennill ei thrydedd Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am ragoriaeth.
Gan gyfrif i lawr i ddyddiad pen-blwydd gwirioneddol y Brifysgol ar Hydref 24, 2008, trefnwyd rhaglen o ddigwyddiadau arbennig. Mae’n cynnwys cyngherddau, seremonïau gwobrwyo, cynadleddau, darlithoedd, chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol a chymdeithasol eraill oll wedi eu cynllunio i ddod â’r ystod ehangaf o bobl at ei gilydd i ddathlu’r flwyddyn bwysig hon.
Hefyd mae apêl ‘125 ar gyfer 125’ y Brifysgol ar waith. Gan adeiladu ar thema’r pen-blwydd, sef ‘Newid Bywydau’ nod yr apêl yw codi 125 o ysgoloriaethau ychwanegol er mwyn cynorthwyo’r cenedlaethau nesaf o fyfyrwyr ac ymchwilwyr ifanc i wireddu eu huchelgeisiau academaidd yng Nghaerdydd. Bydd y £100,000 a godir yn cael ei ariannu’n gyfatebol gan y Brifysgol.
Yn y lansiad, cyfeiriodd Is Ganghellor y Brifysgol y Dr David Grant at y dathliadau pen-blwydd yn 125 fel carreg filltir a oedd yn cynnig cyfle i ddathlu llwyddiannau’r gorffennol a’r presennol ac i edrych ymlaen at y dyfodol. Dywedodd:
O'r chwith i'r dde: Neil Kinnock, Llywydd Prifysgol Caerdydd yn rhannu jôc
gyda'r Is-ganghellor Dr David Grant.
“Mae ein Pen-blwydd yn 125 oed yn ymwneud â dathlu’r cyfan mae ein staff a’n myfyrwyr wedi eu cyflawni ond hefyd yn cydnabod potensial yr hyn oll a ellir ei gyflawni ac a geir ei gyflawni yn y dyfodol. Byddwn yn dathlu’r sylfeini yr adeiladwyd ein llwyddiannau presennol arnynt, a byddwn yn nodi’r pellter sydd gennym i’w deithio o hyd. Mae hon yn addo bod yn daith gyffrous. Rydym am adeiladu etifeddiaeth gryfach hyd yn oed er mwyn cefnogi cenedlaethau sydd i ddod.”
Dywedodd Llywydd y Brifysgol Neil Kinnock (Yr Arglwydd Kinnock o Fedwelty) wrth y gwesteion yn y lansiad:
“Ni fu hi erioed yn ynysig, byth yn unig, byth yn D?r Ifori - dyma brifysgol sydd, dros gyfnod o 125 o flynyddoedd, wedi rhoi rhywbeth yn ôl i’r rhan hwn o dde ddwyrain Cymru ynghyd â Chymru yn ehangach. Mae Prifysgol Caerdydd nid yn unig wedi creu gwaith i lawer ond mae’n meithrin datblygiad diwydiant prifysgol-seiliedig ac arloesiad cyflogaeth.”
Anfonodd Jane Hutt AC, Gweinidog Cynulliad Cymru dros Blant, Addysg, a Sgiliau Dysgu Gydol, neges o gefnogaeth yn dweud: "Gobeithio bydd y flwyddyn hon yn rhoi llwyfan i Brifysgol, Caerdydd arddangos ei llwyddiannau niferus yn y gorffennol, boed yn academaidd, seiliedig ar ymchwil neu’r cyfraniad gwerthfawr a wneir ganddi at greu economi lewyrchus i Gymru.”

