Caerdydd Heddiw ac Yfory - Ymchwil
Cydnabyddir Caerdydd yn rhyngwladol fel prifysgol ymchwil dwys ac mae’n un o 20 prifysgol ymchwil uchaf Gr?p Russell y DU.
Mae ymchwil ac ysgoloriaeth yn rymoedd cadarn ym mhob un o’n 28 o ysgolion academaidd ac mae llawer o staff academaidd y Brifysgol yn gweithio mewn meysydd a gydnabyddir gan aseswyr annibynnol fel rhai o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Croesewir y math hwn o gydnabyddiaeth, ond yr hyn sy’n ein gyrru yn ein blaenau yw’r gwelliannau mae ein hymchwil yn ei gynnig o ran ansawdd bywyd a rhagolygon bywyd pobl. Tra rydym yn ceisio sefydlu gwybodaeth newydd ac ymestyn ffiniau dealltwriaeth dynoliaeth drwy ymchwil sylfaenol, mae ein gwaith ymchwil yn cynnig manteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol sylweddol yn ogystal.

