Caerdydd Heddiw ac Yfory - Dysgu
Mae’r Brifysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddarparu amgylchedd cyffrous ar gyfer cefnogi a hyrwyddo dysgu ac addysgu. Mae addysgu a dysgu yng Nghaerdydd yn datblygu sgiliau deallusol a hunanddibyniaeth sy’n paratoi ein myfyrwyr i ddelio â chymhlethdodau ac ansicrwydd a holi a dadansoddi uniongrededd y presennol. Yn ychwanegol at ddarparu sgiliau pwnc-benodol o safon uchel, mae’r dysgu hwn yn sicrhau mai'r sgiliau hyn sy'n ‘drosglwyddadwy’ ac yn cynnig gwerth gydol oes.

