Addysg i Bawb
O'i ddechreuad, anelodd Prifysgol Caerdydd at gyfle cyfartal i ddynion a menywod fel ei gilydd. Yn wir, cynigwyd yr ysgoloriaeth mynediad uchaf yn ystod 1883 i ferch o blith y myfyrwyr a ddaeth i mewn yn y flwyddyn honno.
Agorwyd Neuadd Aberdâr, neuadd breswyl ar gyfer merched yn unig, ym 1893, gan ddarparu llety parchus a chysurus iawn i fyfyrwyr benywaidd gerllaw'r Brifysgol. Dyma'r ail neuadd breswyl ar gyfer menywod a gafodd ei hadeiladu yn y DU, a chafodd menywod o'r tu allan i Gaerdydd y cyfle i fynychu prifysgol heb y gwaradwydd o fyw ar eu pennau eu hunain mewn llety ar rent.
Mae'r amseroedd wedi newid, a heddiw mae oddeutu hanner y cyfanswm o fyfyrwyr yn fenywaidd. Mae'r mwyafrif yn dewis byw mewn fflatiau modern i fyfyrwyr ar safleoedd cymysg o amgylch y campws, ond mae Neuadd Aberdâr yn parhau i fod yn neuadd breswyl boblogaidd, yn cynnig cartref oddi cartref i 125 o ferched bob blwyddyn.

