Ein Dechreuadau

John Viriamu Jones, Prifathro cyntaf y Brifysgol
125 o flynyddoedd yn ôl, cafwyd Siarter Frenhinol a newidodd wyneb addysg yng Nghymru drwy sefydlu Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy – yr hyn sydd bellach yn Brifysgol Caerdydd.
Penodwyd John Viriamu Jones yn Brifathro cyntaf dros y Brifysgol, yn 27 oed, ac agorywd y Brifysgol mewn adeilad cyn ysbyty ar 24 Hydref 1883 yn cynnig astudiaethau mewn Bioleg, Cemeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Groeg, Hanes, Lladin, Mathemateg, Cerddoriaeth, Cymraeg, Athroniaeth a Ffiseg.

