Nodi newidiadau a chyfuniadau
Fel y mwyafrif o brifysgolion dinesig mawr y Deyrnas Unedig, ffurfiwyd Prifysgol Caerdydd gan draddodiadau mwy nag un sefydliad. Yn achos Caerdydd, gall y ddau sefydliad gwreiddiol olrhain eu sylfeini i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cychwynnwyd Ysgolion Celfyddydau a Gwyddorau Caerdydd ym 1866, tra'r agorwyd Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy ym 1883.
Gydag amser datblygodd yr Ysgolion Celfyddydau a Gwyddoniaeth yn Goleg Technegol Caerdydd a ddaeth, ym 1957, yn Goleg Technoleg Uwch Cymru. Deng mlynedd yn hwyrach roedd y coleg i'w drawsnewid i UWIST - Sefydliad Gwyddorau a Thechnoleg Prifysgol Cymru.
Yn y cyfamser, mabwysiadodd coleg y brifysgol, a sefydlwyd drwy Siarter Frenhinol, yr enw cyhoeddus Coleg y Brifysgol, Caerdydd a daeth hwn yn deitl sefydledig pan gafodd ei gymeradwyo’n ffurfiol gan y Cyfrin Gyngor ym 1972. Erbyn y dyddiad hwnnw roedd gan ddinas Caerdyddddau sefydliad prifysgol fel cymdogion o fewn ei chanolfan ddinesig, - Coleg y Brifysgol, Caerdydd ac UWIST - gyda chryn dipyn o orgyffwrdd o ran darpariaeth bynciol a nifer gynyddol o weithgareddau cyfrannol. Ymunodd y ddau sefydliad ym 1988.
Cyfunwyd Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru yn 2004 er mwyn creu Prifysgol mwy o ran maint a grym a gallu a medr cynyddol seiliedig ar ein huniad a’n buddsoddiad strategol ychwanegol cysylltiol.

