Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Llinell amser

125 mlynedd o ddigwyddiadau Prifysgol Caerdydd a’r Byd, o Krakatoa hyd at y glaniad ar y lleuad a thu hwnt.

Ysgrifennodd Arglwydd Aberdâr, a chwaraeodd ran ganolog yn sefydlu coleg y brifysgol yng Nghaerdydd ac oedd yn llywydd cyntaf y coleg, at Mr Henry Richard, Aelod Seneddol ym 1884:

Pam na allwn fyw am 100 mlynedd – neu’n hytrach, ddychwelyd yma mewn 100 mlynedd – a gweld ffrwyth ein gwaith ni a’n ffrindiau?

 


 

Digwyddiadau Prifysgol Caerdydd

Digwyddiadau Hanesyddol/Diwylliannol

  1880 - 1889
  1883 1883

 

Y llosgfynydd Krakatoa yn ffrwydro yn Indonesia, un o’r ffrwydradau mwyaf a mwyaf pwerus ers canrifoedd.
  1884  
 

Enwir Arglwydd Aberdâr, awdur yr adroddiad a roddodd fywyd i Brifysgol,Caerdydd, yn Lywydd cyntaf y Brifysgol. Heddiw mae cerflun yn nodi ei gyfraniad hanesyddol i addysg yng Nghaerdydd yn sefyll yng Ngerddi Alexandra’r ddinas sydd yn edrych i gyfeiriad y Brifysgol a fu o gymorth i’w sefydlu. Sefydlwyd Clwb Myfyrwyr ar gyfer yr holl fyfyrwyr gwrwaidd cofrestredig. Y tanysgrifiad yw 2s.6c (12 ½ c) fesul sesiwn.

 
  1885  
  Agorodd y Brifysgol ei neuadd breswyl gyntaf i ferched, Neuadd Aberdâr. Dyma’r cyntaf yng Nghymru a’r ail yn unig ym Mhrydain, ar ôl Coleg y Brifysgol, Llundain. Erys yn neuadd i ferched yn unig hyd y dydd heddiw.  
  1890 - 1899
  1893 1896

Yng nghyfarfod cyntaf Llys y Brifysgol, cynigodd meddyg blaenllaw yn ne Cymru y dylid cael ysgol feddygaeth yng Nghaerdydd. Arweiniodd ei gyfraniad cychwynnol o £1,000 at agor yr Adrannau Anatomeg a Ffisioleg yn y pen draw.

Cynhaliwyd y gemau Olympaidd modern cyntaf yn Athen.
1894 1897

Agorwyd yr Ysgol Feddygaeth yn swyddogol ar lawr uchaf adeilad y Coleg, Heol Casnewydd, Caerdydd gan Syr Richard Quain, Llywydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

Dyfarnwyd y patent ar gyfer cyfathrebiad radio i Gugliemlo Marconi. Roedd y darllediad radio cyntaf o Ynys Echni i Drwyn Larnog yn ne Cymru.
  1896  
 

Y Brifysgol yn cyflwyno gradd am y tro cyntaf

 
  1900 - 1909
  1904 1901

Millicent McKenzie, sy'n gyfrifol am hyfforddiant athrawesau, yw'r fenyw gyntaf yng Nghymru, ac o bosib ym Mhrydain, i gael ei cyfarch fel Athro

Brenhines Victoria yn marw ar ôl teyrnasu am 63 o flynyddoedd, fe’i holynir gan Edward VII

1905 1905

Tywysog Cymru, sef Ei Fawrhydi’r Brenin Siôr V yn ddiweddarach, yn gosod y Garreg Sylfaen ar gyfer y Prif Adeilad. Yn y seremoni cyflwynodd y pensaer William Douglas Caroe y trywel i’r Tywysog Siôr, a osododd y Garreg Sylfaen yn ei lle’n swyddogol yn ei rôl fel Canghellor. Dyma’r cyntaf o nifer o seremonïau tebyg a gafodd eu cyflawni gan dywysogion olynol Cymru.

Rhoddwyd statws dinas i Gaerdydd.
  1909  
 

Adeiladwyd Adeilad Morgannwg, sy'n gartref i'r Ysgol
Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol ac Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

 
  1910 - 1919
  1911  

Agorwyd Ysbyty Brenhinol Caerdydd (y CRI) ym 1883, cafodd ei ailenwi yn Ysbyty Brenin Edward VII am gyfnod byr (hyd 1923, pan ddychwelodd yn ôl i CRI). Yn ystod y cyfnod ffurfiannol hwn sefydlwyd y CRI yn gadarn fel ysbyty addysgu.

 
1912 1912
Y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mari yn ymweld â'r Brifysgol

Y llong fordaith, Titanic, yn suddo gan golli 1,503 o fywydau.

1914 - 18 1914 - 18

111 o gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr y presennol
yn cael eu lladd mewn brwydrau yn ystod y Rhyfel
Byd Cyntaf.

Y Rhyfel Byd Cyntaf
  1915  
 

Gosodir y garreg sylfaen ar gyfer y bloc Ffisioleg ar Heol Casnewydd, Caerdydd, gan nodi’r cam cyntaf o adeiladu Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru newydd. Cafwyd arian ar gyfer yr adeilad newydd drwy gyfraniad o £100,000 gan Syr William Thomas, Is-lywydd y Coleg.

 
  1916  
 

James William Tudor (Syr Tudor yn ddiweddarach) Thomas oedd y cyntaf i dderbyn y radd MB Bch. Aeth ymlaen i fod yn arbenigwr mewn llawdriniaeth ophthalmig, gan wneud gwaith arloesol mewn llawdriniaeth ar y cornbilen gan adfer golwg claf a fu bron yn ddall am 27 o flynyddoedd, gan ddenu diddordeb byd eang ym 1934.

Gorffennwyd Adeilad Bute, ac mae nawr yn gartref i Ysgol Pensaernïaeth Cymru a’r Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant.

 
  1920 - 1929
  1921  

Mae Ysbyty Brenin Edward VII yn derbyn yr Ysgol Feddygaeth newydd, i’w henwi’n Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru (WNSM).

 
1924  

Dyfarnwyd swm o £14,000 gan Sefydliad Rockefeller. Sefydliad a gynlluniwyd i “hyrwyddo lles” dynoliaeth drwy fynd i’r afael â gwreiddiau problemau difrifol, er mwyn prynu Ysbyty Rookwood a’r tiroedd o’i amgylch yn Llandaf, Caerdydd at ddefnydd yr Ysgol Feddygaeth. Defnyddiwyd yr arian i adeiladu labordai ymchwil ar gyfer yr Adran Feddygaeth.

 
1926 1926

Sefydlwyd Cymdeithas Wyddonol Caerdydd gan staff technegol yr Adran Swoleg; mae'r Gymdeithas yn parhau i lewyrchu heddiw.

Y streic gyffredinol yn y DU.

  1927
  Crëwyd y BBC gyda’r genhadaeth i rannu gwybodaeth, addysgu a difyrru.
  1930 - 1939
  1930 1930

Myfyrwyr yn perfformio Bloedd y Coleg i ddathlu ymweliad Tywysog Cymru i agor y labordai Cemeg a Ffiseg newydd yn y Prif Adeilad.

Cynhaliwyd cystadleuaeth cwpan pêl-droed y byd
cyntaf yn Uruguay
1933 1936

Yr Arglwydd ac Arglwyddes Bute yn agor eu drysau yng Nghastell Caerdydd i gynnal parti gardd i ddathlu Jiwbilî Aur y Brifysgol. Wedyn cynhaliwyd Seremoni Raddio Anrhydeddus o flaen cynulleidfa o 2,500, a chynhaliwyd gwledd gyda'r nos.

Siôr V yn marw ac yn cael ei olynu gan Edward VIII
sy’n ildio’r goron a’i olynu gan Siôr VI.

1939 - 45 1939 - 45

Yn ystod yr Ail Rhyfel Byd rhoddwyd lloches i staff a myfyrwyr 'ar ffo' o Brifysgol Llundain ac amryw o adrannau'r Llywodraeth. Llwyddodd y Brifysgol i aros yn agored gydol y rhyfel, ar wahan i dridiau ym 1941 pan roedd y bomio ar ei anterth.

Yr Ail Rhyfel Byd.
  1940 - 1949
  1947 1948

150 o fyfyrwyr clinigol yn ymrestru gyda'r Ysgol Feddygol, 26 yn ymrestru fel myfyrwyr fferyllol a dilynodd 25 myfyriwr gyrsiau ôl-radd mewn iechyd cyhoeddus a'r diciâu. Yn ychwanegol at hyn ymrestrodd bron 100 o fyfyrwyr ar gyrsiau ymwelwyr iechyd, bydwragedd a gwyddonwyr glanwaith.

Sefydlwyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG/ NHS).
  1948  
 

Yr Athro Jethro Gough yn derbyn Cadair Patholeg Ysgol Feddygaeth Cenedlaethol Cymru. Yn ddiweddarach mae’n gwneud cyfraniadau pwysig i ddealltwriaeth o glefydau'r ysgyfant ac yn ennill enw da yn rhyngwladol o ran patholeg ysgyfeintiol, yn enwedig am ei waith ar glefyd y llwch ymhlith glowyr. Ar y cyd ag uwch aelod arall o’r staff technegol yn Sefydliad Patholeg, yr Ysgol Feddygaeth, datblygodd y dechneg toriad ysgyfaint mawr a ddaeth i’w ddefnyddio ledled y byd wrth astudio ysgyfaint ac organau eraill.

 
  1950 - 1959
  1950 1952

Cafwyd cytundeb i ddatblygu canolfan ddysgu meddygol a deintyddol 53 erw yn y Mynydd Bychan, Caerdydd, un filltir i'r gogledd o Brif Adeilad y Brifysgol. Dyma'r Ysbyty Prifysgol fwyaf yn y DU heddiw a hi yw'r ysbyty hyfforddi ar gyfer Ysgolion Meddygaeth a Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

Elizabeth II yn olynu ei thad i’r orsedd.
1955 1955

Neuadd y Brifysgol, Penylan, yn agor gyda llety i 58 o fyfyrwyr gwryw. Heddiw mae safle Neuadd y Brifysgol yn darparu llety ar gyfer 637 o fyfyrwyr.

Caerdydd yn cael ei gwneud yn brifddinas Cymru.
  1959  
 

Cyhoeddi 'Automatic ventilation of the lungs' yr Athro William Mushin, a dderbynnir yn gyffredinol fel clasur o waith ar y pwnc.

 
  1960 - 1969
  1960  

Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn ymweld â'r Ysgol Beirianneg ac yn agor yr Adeilad Mwyngloddio.

 
1961  

Gorffennwyd Adeilad Redwood, cartref Ysgol Fferylliaeth Cymru.

 
1962  

Gosodwyd y sylfeini a dechreuwyd adeiladu ar safle'r Mynydd Bychan ar gyfer Ysbyty Prifysgol Cymru.

 
1966  

Agorwyd yr Ysgol Ddeintyddiaeth a'r Ysbyty'n swyddogol gan Uchelder Brenhinol Dug Caeredin.

 
1967 1967

Coleg Technoleg Uwch Cymru'n newid i Sefydliad Gwyddorau a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) ac yn derbyn Siarter Brenhinol.

Cam cyntaf Ymchwil Cancr Sefydliad Tenovus yn cael ei agor gan Ei Huchelder Brenhinol Dywysoges Margaret ar safle'r Mynydd Bychan, Caerdydd.

Darlledwyd y rhaglen gyntaf mewn teledu lliw ym
Mhrydain ar BBC 2.

1968  

Penodir Syr Aubrey Trotman-Dickenson yn Bennaeth UWIST, yn dod yn Bennaeth Prifysgol Caerdydd yn ddiweddarach yn dilyn y cyfuniad ag UWIST.

 
1969 1969

Penodir Patrick David Mounsey yn Bennaeth Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru.

Y gofodwr Neil Armstrong o America yw’r dyn cyntaf i
gerdded ar y lleuad.

  1970 - 1979
  1971 1971

Ei Mawrhydi'r Frenhines yn agor yn ffurfiol y Ganolfan Hyfforddi Feddygol £20M, yn cynnwys Ysbyty'r Brifysgol ag 800 o welyau ac Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru.

Cyflwynwyd degoli.
1972  

Yr Athro Archie Cochrane, athro blaengar yr Ysgol Feddygaeth, yn cyhoeddi "Effectiveness and Efficiency: Random Reflections on the Health Service" - gan roi bodolaeth i’r cysyniad o feddyginiaethau seiliedig ar dystiolaeth. Ystyrir y gwaith yn destun arloesol, ac mae’n parhau i ddylanwadu’n fawr ar ymchwil ac ymarfer gwasanaethau iechyd ledled y byd.

 
1974  

Adeilad Undeb y Myfyrwyr yn cael ei agor.

 
  1979  
 

Penodir Syr Herbert Duthie yn Bennaeth Ysgol Meddygaeth Genedlaethol Cymru.

 
  1980 - 1989
  1985 1982

Yr Athro Patrick Forrest yn arwain Gweithgor i ymchwilio dichonolrwydd sgrinio cancr y fron. Awgryma’r gr?p gynnig sgrinio, gan ddefnyddio mamograffeg, i’r holl fenywod rhwng 50 a 64 pob 3 mlynedd fel rhan o’r GIG. Mae’r rhaglen sgrinio’n amlygu eu hun heddiw ar ffurf Bron Brawf Cymru.

Gwrthdaro’r Falklands rhwng Prydain a’r Ariannin.
1987 1989

Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn agor Ysgol Fusnes Caerdydd yn Adeilad Aberconwy yn ffurfiol.

Mur Berlin yn syrthio.
1988  

Rhoddir Siarter Frenhinol i UWIST a Choleg Prifysgol Cymru Caerdydd (UCC) i gyfuno. Enwir y sefydliadau’n ‘Coleg Caerdydd Prifysgol Cymru’.

Sefydlwyd y Ganolfan Annwyd Cyffredin, Ysgol Bio-wyddorau. Dyma’r unig un o’i math yn y byd sydd wedi ei hymroi i waith ymchwil a threialon clinigol ar ryddhad rhag symptomau annwyd cyffredin, y ffliw a chlefyd y gwair.

 
  1990 - 1999
  1990  

Ennillodd y papur newyddion i fyfyrwyr, y gair rhydd, wobr Papur Newydd y Flwyddyn yng ngwobrau papur newydd myfyrwyr y Guardian. Dyma’r dewis unfrydol cyntaf yn hanes 12 mlynedd y wobr.

Enillodd yr Ysgol Peirianneg Drydanol, Electronig a Systemau fedal aur yn yr Olympiau Robotaidd Rhyngwladol Cyntaf am gynllun ac adeiladu’r robot cyflymaf ar ddwy goes yn y byd. Mae cyflymdra uchaf y peiriant ychydig yn llai nag un filltir yr awr ac yn cymryd hanner munud i redeg cwrs tair medr.

Cyhoeddwyd The Machine that Changed the World gan yr Athro Daniel Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd. Mae’r Financial Times yn ei ddatgan yn Llyfr Busnes y Flwyddyn a dyma’r astudiaeth fwyaf cyflawn o’r diwydiant cerbydau erioed i’w chyflawni.

Gyda chefnogaeth yr Adran Iechyd, mae tîm o’r Adran Optometreg yn datblygu profion ar gyfer mesur golwg plant ag anableddau golwg ac anableddau eraill. Blynyddoedd yn ddiweddarach mae i ddod yn uned arbenigol o fewn Ysgol Gwyddorau Optometreg a Golwg.

 
1991 1992

Cyflwynwyd y cwrs Ymarfer Cyfreithiol ar gyfer y rhai â’r bwriad i fod yn gyfreithwyr, gan osod Ysgol Y Gyfraith Caerdydd ar y blaen o ran addysg gyfreithiol. Yn yr un flwyddyn, mae’r Ysgol yn sefydlu Canolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol newydd.

Torrwyd tir newydd o ran ynysu a nodi genyn dystroffi myotonig gan ymchwilwyr yn y Sefydliad Genetau Meddygol.

Adeiladu Twnnel y Sianel gan greu cysylltiad
trên rhwng Llundain a Pharis.

  1993  
 

Penodir Syr Brian Smith yn Is-Ganghellor.

Ei Mawrhydi’r Frenhines yn agor y safle beirianneg yn swyddogol ac yn caniatáu i’w alw’n Adeiladau’r Frenhines.

 
  1994 1994
 

Penodir  yr Athro Ian Cameron yn Is-Ganghellor Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru.

Diwedd ar apartheid yn Ne Affica.
  1995  
 

Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru’n derbyn croeso brwd gan y myfyrwyr wrth iddo agor yn swyddogol safle preswyl Talybont, am £17M, i letya 1,250 o fyfyrwyr.

 
  1996  
 

Sefydlwyd y Ganolfa Peirianneg Gweithgynhyrchu (MEC), o dan gyfarwyddyd yr Athro Duc Pham OBE i gynnal ymchwil a datblygiad sy’n arwain y byd ym mhob prif faes Gweithgynhyrchu Uwch ac yn defnyddio’r allbwn i hyrwyddo cyflwyno technoleg ac ymarfer gweithgynhyrchu newydd i ddiwydiant. Mae’r Ganolfan yn mynd ymlaen i ennill nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Gyntaf y Gweinidog Gwladol dros Fasnach a Diwydiant am lwyddo i adeiladu partneriaethau ymchwil parhaol gyda diwydiant a Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am greu rhaglen eithriadol o gefnogaeth ar gyfer cwmnïau sy’n defnyddio ein harbenigedd ymchwil a’n cyfleusterau sydd ar fan eithaf y grefft.

 
  1997 1997
 

Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru'n dychwelyd i ymweld ag Adeilad Morgannwg, gynt yn Neuadd Sirol Morgannwg Ganol, a brynwyd yn ddiweddar. Rhoddir gwybod iddo sut y bydd yn darparu lleoliad o'r radd orau ar gyfer dysgu ac ymchwil. Mae'r adeilad yn gartref yn awr i'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol.

Yr Alban a Chymru’n pleidleisio o blaid datganoli.
  1998  
 

Mae'r Coleg Meddygol yn derbyn Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am dechnoleg labeli cemoleuol a ddefnyddir mewn labordai ledled y byd yn awr.

 
  1999  
 

Caerdydd yw’r unig brifysgol yng Nghymru i ddod yn aelod o Grŵp Russell, sef grŵp o brifysgolion ymchwil sy’n gweithio gyda phrifysgolion blaengar eraill ar draws y DU i helpu datblygu’r sector addysg uwch.

Agorir yr 'arch-ysgol' Bio-wyddorau newydd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

 
  2000 - 2010
  2000  

Ei Mawrhydi'r Frenhines a'i Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn treulio diwrnod cyfan 'rhagorol a bythgofiadwy' yn ymweld â'r Brifysgol.

 

2001 2001

Penodir y Dr David Grant yn Is-Ganghellor.

Penodir yr Athro Stephen Tomlinson yn Is-Ganghellor, Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru.

Cydnabyddir Prifysgol Caerdydd fel un o
brifysgolion blaenllaw Prydain yn yr Ymarfer
Asesiad Ymchwil lle atgyfnerthwyd graddau
yn mwyafrif o'r meysydd ymchwil.

Sefydlwyd Canolfan Perthnasoedd Busnes, Atebolrwydd, Cynaladwyedd a Chymdeithas (BRASS) gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Cymdeithasol ac fe’i hagorwyd gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru yn y flwyddyn flaenorol.

11 Medi ymosodiadau terfysgwyr ar America yn syfrdanu’r byd.

Y blaid Lafur yn ennill yr etholiad cyffredinol, a Tony Blair yn dychwelyd fel prif weinidog.

2002 2002

Sefydlwyd Parc Genynnau Cymru er mwyn cefnogi ymchwilwyr geneteg yng Nghymru a thu hwnt.

Brenhines Elizabeth II yn dathlu ei Jiwbilî Aur.
2003  

Y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, yn agor Adeilad Wellcome ar gyfer Ymchwil Bio-feddygol yng Nghymru ar safle Ysbyty'r Brifysgol.

Y Brifysgol yw'r lleoliad ar gyfer seremoni arwisgo Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines, dan lywyddiaeth Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

 
2004 2004

Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn uno gan ail-sefydlu’r Ysgol Feddygol o fewn ei gorff gwreiddiol ar ôl 70 o flynyddoedd.

Caerdydd yw’r unig brifysgol yng Nghymru sydd yn dod yn rhan o Gr?p Russell ar gyfer prifysgolion ymchwil-dwys sy’n gweithio gyda phrifysgolion blaenllaw eraill ledled y DU i gynorthwyo yn natblygiad y sector addysg uwch.

Y tswnami yng Nghefnfor yr India.
2005 2005

Cyflwynir y teitl ‘Prifysgol Caerdydd’ a Siarter Atodol newydd i’r Brifysgol gan y Cyfrin Gyngor ar ran Ei Mawrhydi’r Frenhines, gan felly wneud Caerdydd yn brifysgol yn ei rhinwedd ei hun ac, o ganlyniad, yn annibynnol o Brifysgol Cymru.

Prifysgol Caerdydd yn derbyn y myfyrwyr cyntaf i gyrsiau gradd Prifysgol Caerdydd. Mae hyn yn cadarnhau ei lleoliad o ran ei chymhwyster ar gyfer dyfarniadau Prifysgol Caerdydd.

Agoriad Canolfan y Brifysgol ar gyfer Astudiaeth Islam yn y DU, y gyntaf yn y DU i ganolbwyntio ar Islam a Mwslemiaid ym Mhrydain. Fe’i hagorir gan Yusuf Islam ( gynt yn gerddor o dan yr enw Cat Stevens). Mae’r Ganolfan yn derbyn gwobr Prifysgol Sankore am Ragoriaeth mewn Addysg yng Ngwobrau Newyddion Mwslimaidd.

Partneriaeth newydd rhwng gwyddonwyr yn Ysgol Optometreg a Golwg Prifysgol Caerdydd ac Adran Opthalmoleg, Prifysgol Rhaglywyddol Meddygaeth Kyoto, Siapan yn ymestyn y frwydr fyd eang yn erbyn clefydau’r llygad. Mae’r bartneriaeth yn cynnig gwell dealltwriaeth o’r eneteg sy’n rheoli clefydau endemig y llygad.

Agorwyd Canolfan Unum newydd ar gyfer Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd yn yr Ysgol Seicoleg. Y ganolfan yw’r gyntaf yn y DU i ddatblygu llinellau ymchwil penodol mewn ffactorau seicogymdeithasol cysylltiedig ag anabledd ynghyd a chynnal ymchwil i gymhwyso ymchwil yn seiliedig ar ymyriadau adferiad galwedigaethol.

Mae’r Brifysgol yn gwella rôl Gogledd Cymru yn hyfforddi myfyrwyr meddygol drwy lansio Ysgol Glinigol Gogledd Cymru - menter a gefnogwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w swm o £12.5 miliwn. Mae Ysgol Glinigol Gogledd Cymru’n dod yn brif gydran o Ysgol Feddygaeth y Brifysgol ac mae’n waith ar y cyd rhwng tair ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, Prifysgol Cymru, Bangor, a Sefydliad Ogledd Dwyreiniol Cymru a darpariaeth gofal sylfaenol Gogledd Cymru.

Protocol Kyoto yngl?n â chamau i reoli newid yn yr
hinsawdd yn dod i rym.
2006  

Yr Athro Feddyg Robert Huber yn ymuno â’r Brifysgol ar sail rhan amser er mwyn arwain datblygiad Bioleg Adeileddol, rhan o fenter ar draws y Brifysgol o ran Bioleg Gemegol.

Yr actor, digrifwr ac awdur Stephen Fry yn troi at yr Ysgol Feddygaeth i geisio deall y blynyddoedd o boenydio gan anhwylder deubegynol. Enillodd ei rhaglen ddogfen BBC – The Secret Life of the Manic Depressive wobr BAFTA.

Canolfan Delwedd Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd yn agor gan hwyluso mewnwelediadau newydd i’r ffordd mae’r ymennydd dynol yn gweithio. Un o’r cyfleusterau cyntaf yn y DU i gyfuno Delweddu Adeileddol a Gweithredol Cyseinedd Magnetig (MRI/fMRI) a Magnetoeseffalograffeg (MEG), ac wedi ei ymneilltuo’n llwyr i ymchwil.

Y Cymro a’r tenor o fri, Dennis O’Neill CBE, yn ymuno â’r Brifysgol i greu Academi Ryngwladol y Llais Caerdydd, gan gynnig hyfforddiant llais unigol i rai o’r doniau mwyaf cyffrous ym myd yr opera.

Prifysgol Caerdydd ac Ysbyty Treforys Abertawe yn ennill yr hawl i gynnal y Ganolfan Ymchwil Llosgiadau Sefydliad Iachau'r DU - gweithgaredd gwerth sawl miliwn o bunnoedd sy'n dal y gobeithion am fanteision mawr i'r 14,000 o bobl ym Mhrydain sy'n dioddef llosgiadau difrifol bob blwyddyn.

 
2007 2007

Caerdydd yn torri mewn i rengoedd 100 prifysgol uchaf y byd am y tro cyntaf yng Ngraddfeydd Addysg Uwch Prifysgolion y Byd y Times.

Yr Athro Syr Martin Evans FRS yn ennill Gwobr Nobel am Feddygaeth am ei gyfres o ganfyddiadau arloesol yn ymwneud â bôn-gelloedd embryonig ac ailgyfuniad DNA mewn mamaliaid. Syr Martin Evans oedd y gwyddonydd cyntaf i ynysu bôn-gelloedd embryonig a ddaeth yr ail Enillydd Nobel ym Mhrifysgol Caerdydd. Arweinir ei longyfarchion gan y Prif Weinidog, Gordon Brown.

Sefydliad Eneteg Feddygol y Brifysgol yn ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am ragoriaeth mewn addysg uwch.

Yr Athro Robert Mansel, llawfeddyg y fron, Yr Ysgol Feddygaeth, yn arloesi mewn techneg llawdriniaeth newydd ar gyfer cancr y fron sy’n cael ei nodi’n Arloesiad y Flwyddyn gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Asiantaeth llinell flaen y Cenhedloedd Unedig yn erbyn newyn byd-eang yn comisiynu tîm o Ysgol Gynllunio Dinesig a Rhanbarthol Caerdydd i arwain rhaglen fwydo newydd i ddysgu sut i dyfu llysiau cartref yn yr ysgolion ar gyfer Rhaglen Fwyd y Byd.

Mae’r Brifysgol yn cychwyn yr astudiaeth enetig fwyaf erioed i ymchwilio’r genetig sydd wrth sail dechreuad hwyr y clefyd Alzheimer. Mae’r Athro Julie Williams o’r Ysgol Feddygaeth yn arwain tîm o arbenigwyr o’r DU mewn astudiaeth o samplau DNA a gymerwyd o 14,000 o bobl ar draws y byd mewn chwiliad am y genynnau sydd nid yn unig yn rhagdueddu pobl i’r clefyd Alzheimer’s, ond sydd hefyd yn gallu eu diogelu rhag y clefyd.

Gorffennwyd adeilad newydd, gwerth £21M, ar gyfer yr Ysgol Gwyddorau Optometreg a Golwg. Mae’n cynrychioli’r buddsoddiad mwyaf mewn gofal llygaid unrhyw le yn y DU ac yn darparu un o’r canolfannau Prifysgol mwyaf datblygiedig ar gyfer gwyddorau optometreg a golwg.

Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru’n lansio Sefydliad Gwyddor yr Heddlu y Brifysgol yn swyddogol, cydweithrediad unigryw rhwng Heddlu De Cymru, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Morgannwg.

Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn agor Canolfan Ymchwil Tyrbin Nwy newydd, yn yr Ysgol Beirianneg, ar gyfer profi dulliau glanach a mwy effeithiol o gynhyrchu ynni.

Yr Athro Jonathan Shepherd o’r Ysgol Ddeintyddol yn derbyn Gwobr Stockholm mewn Troseddeg am ei waith arloesol ar drais hwyr y nos mewn dinasoedd.

Y Brifysgol yn troi’n sefydliad masnach-deg.

Gosodwyd Cloc Dydd y Farn ar bum munud i ganol nos.

Ffenomen Facebook yn cydio.

2008

 

Dathlu pen-blwydd Prifysgol Caerdydd yn 125 oed.

Cynhelir digwyddiadau i ddathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 125 gydol 2008. Ewch i dudalennau'r 125 o ddigwyddiadau am fwy o fanylion.