Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

125 Blynedd

Dr David Grant

Rwy'n falch i'ch croesawu i dudalennau gwe "125" Prifysgol Caerdydd sy'n dathlu cant dau ddeg a phump o flynyddoedd o fywyd a gwaith y Brifysgol.

Bellach ymhlith y 100 sefydliad Prifysgol uchaf yn y byd, enillodd Caerdydd enw rhyngwladol am ei hymchwil a'i dysgu.

O ddechreuadau cyffredin mae cyflawniadau Caerdydd dros y 125 o flynyddoedd diwethaf yn rhywbeth i ymfalchio ynddynt ac yn ysbrydoliaeth i'r rhai ohonom sy'n gweithio ac yn astudio yma heddiw, yn union fel y buont, rwy'n mawr obeithio, i'r holl staff a myfyrwyr a fu'n rhan o'n cymuned dros y blynyddoedd.

Trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer 2008 er mwyn roi cyfle i bawb sy’n dymuno cymryd rhan yn y dathliadau i wneud hynny. Mae mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn dal ar y cyfnod cynllunio a chroesewir eich sylwadau chi ar sut rydym i ddathlu ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol. Ceir manylion mewn mannau eraill ar y safle hwn. Cymerwch eich amser i bori dros yr hyn sydd wedi ei gynllunio a nodwch sut y gallwch gymryd rhan ac o bosib cyfrannu yn ogystal. Ein thema yw “Rhoi”. Prifysgol Caerdydd yn rhoi i’w hamryw gymunedau a’i rhan-ddeiliaid, a’r rhan-ddeiliaid yn eu tro’n rhoi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol.

Wrth i ni ddathlu ein treftadaeth drwy fyfyrio dros ein gorffennol, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod bod yr hyn oll a gyflawnwyd yn darparu llwyfan cryf ar gyfer cyflawni ein blaenoriaethau presennol a'n gweledigaeth heriol i fod yn “Brifysgol sy’n arwain y byd”.

Calendr Digwyddiadau - Mwy o wybodaeth…