Adolygiad Blynyddol 2012
Mae’r adolygiad hwn yn tynnu sylw at rai o gyflawniadau, llwyddiannau a rhagoriaethau diweddar y Brifysgol.
Cliciwch ar y clawr i lansio’r fersiwn rhyngweithiol o’r Adolygiad Blynyddol.
Argraffiad Rhyngweithiol
Bellach, nifer fach yn unig o gopïau o’r Adolygiad Blynyddol y bydd y Brifysgol yn eu hargraffu. Mae i hynny fanteision go-iawn i’r amgylchedd ac mae’n unol ag ymrwymiad y Brifysgol i gynaladwyedd. Os bydd angen copi printiedig arnoch, gallwch chi argraffu unrhyw adran o’r Adolygiad o’r pdf isod neu anfon cais am gopi printiedig i swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus y Brifysgol (E-bost: publicity@caerdydd.ac.uk).
Os byddai’n well gennych chi lwytho’r PDF o’r Adolygiad Blynyddol i lawr, cliciwch yma.
Ein Cenhadaeth yw bod yn brifysgol sy’n arwain y byd. Cyrraedd safle ymhlith goreuon un y byd yw’r cyrchnod mwyaf heriol y gallwn ni ei osod i ni’n hunain. Dyna yr ydym wedi’i wneud am mai gweithio i gyrraedd y safonau rhyngwladol uchaf un mewn ymchwil, addysgu a gweithgareddau eraill yw’r unig ffordd y gallwn ni gyflawni holl botensial cymuned academaidd Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweledigaeth ni’n adlewyrchu’n gwasanaeth i gymdeithas ac fe awn ar drywydd ein gweledigaeth gan gredu na ddylai’r rhai sy’n ymddiddori yn y Brifysgol ddisgwyl i ni arddel uchelgais damaid is na hynny.

