Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Caerdydd: Prifddinas

Bywiog, gosgeiddig a hyderus o amrywiol ydyw Caerdydd ac y mae’n gallu cynnig rhywbeth i bawb, gan gynnwys cyffro dinas fywiog neu dawelwch braf y wlad a glan y môr sydd gerllaw.

Y mae gan Gaerdydd hanes ac uchelgais a chymeriad unigryw, ansawdd bywyd da ac enw da sydd yn tyfu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Cardiff Panorama

Ar hyn o bryd, y mae’n gartref i Rownd Derfynol Cwpan yr FA, Rali Network Q, cystadleuaeth Canwr y Byd a nifer fawr o ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys gŵyl haf rad ac am ddim fwyaf Prydain.

Ar hyn o bryd, y mae’n gartref i Rownd Derfynol Cwpan yr FA, Rali Network Q, cystadleuaeth Canwr y Byd a nifer fawr o ddigwyddiadau eraill, gan gynnwys gŵyl haf rad ac am ddim fwyaf Prydain.

Y mae nenlinell canol y ddinas yn brawf o hanes ac uchelgais y lle. Y mae’n cynnwys adeiladau pwysig sydd yn amrywio o’r ganolfan ddinesig addurniedig i’r castell hanesyddol sydd yng Nghaerdydd.

Y mae Caerdydd wedi hen ennill ei blwyf fel ‘Prifddinas Ieuengaf Ewrop’ ond y mae ei hanes yn mynd yn ôl mwy na 2000 o flynyddoedd hyd at y Rhufeiniaid. Ar un adeg yr oedd yn un o’r porthladdoedd prysuraf yn y byd, gan allforio’r glo a greodd y Chwyldro Diwydiannol.

Y mae dociau enwog Tiger Bay wedi eu gweddnewid i raddau helaeth a’u troi’n Fae Caerdydd sydd â thai, siopau, swyddfeydd, atyniadau i ymwelwyr modern yn ogystal â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd oll ac un ar lan llyn dŵr croyw anferth.

Cardiff 2005 Centenary Celebratory logo

Yn 1905 trowyd Caerdydd yn ddinas ac yn 1955 daeth yn brifddinas Cymru - efo dathliadau canmwlyddiant yn 2005.

Dinas Gyfeillgar

Students taking a break from learning.

Y mae dinas Caerdydd yn cynnig lle ardderchog i astudio. Y mae myfyrwyr yng Nghaerdydd yn elwa ar fyw mewn cyfuniad o ddinas fechan, gyfeillgar a rhad a chyfleusterau diwylliannol a gweithgareddau hamdden a berthyn i brifddinas uchelgeisiol a blaengar.

Gan mai 327,500 yw poblogaeth Caerdydd nid oes gorboblogi yma. Y mae gan fyfyrwyr Caerdydd fywyd prysur, sydd yn cynnwys eu hastudiaethau academaidd a’r gweithgareddau cymdeithasol a diwylliannol sy’n digwydd yma.

Lleoliad Cyfleus

Y mae Caerdydd yn hawdd iawn ei chyrraedd gan fod ganddi heolydd, gwasanaeth rheilffordd a chysylltiadau awyr ardderchog. O ddefnyddio’r gwasanaeth pob awr ar y cledrau gellir cyrraedd Lundain mewn dwy awr.

Y mae Caerdydd yn gyfleus hefyd i feysydd awyr Heathrow a Gatwick ac y mae’r ddinas yn elwa ar ei maes awyr rhyngwladol ei hun. Y mae’r maes awyr yn ymyl yr M4 sydd yn gysylltiad cyflym â gweddill y DU.

"Caerdydd yw’r ddinas Brydeinig gosmopolitan sydd ar i fyny. Y mae’r lle yn llawn dynn bob llathen o’r llefydd yfed, dawnsio a siopa gorau tu allan i Lundain."
Virgin Alternative Guide to British Universities

"Dyma’r brifddinas sydd yn tyfu gyflymaf yn Ewrop. Y mae ganddi hen bensaernïaeth brydferth yn ogystal â datblygiadau glan d^wr ym Mae Caerdydd, sydd yn cynnwys sinemâu, tai bwyta, caffis ac amgueddfeydd. Siopa, bwyta a hygyrchedd ardderchog."
The Trotman Student Book

"Y mae Caerdydd yn boblogaidd ymhlith myfyrwyr gan ei bod yn cynnig atyniadau dinas fawr heb y prisiau uchel y mae myfyrwyr yn gorfod eu talu mewn llefydd eraill."
The Times Good University Guide

Dolenni cyswllt