Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Pwyllgor Argyfyngau ar gyfer Trychinebau

Mae’r Pwyllgor Argyfyngau ar gyfer Trychinebau (DEC) yn grŵp ymbarél o sefydliadau cymorth yn y DU - gan gynnwys ActionAid, y Groes Goch Brydeinig, ac Oxfam - yn gweithio i ddarparu dŵr glân, bwyd a lloches i filoedd.

Lleoliad Haiti

Apêl Daeargryn Haiti

Mae’r DEC wedi lansio apêl argyfwng i helpu Haiti yn dilyn y daeargryn difrodus yn ddiweddar. I gael mwy o wybodaeth neu i wneud rhodd ewch i: www.dec.org.uk/item/200


Mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi mandad dyngarol asiantaethau’r DEC a’r datganiad a wnaed gan Brifysgolion y DU sef: “Mae Prifysgolion y DU wedi’u hymrwymo’n benderfynol i’r hawl i addysg, a gorfforwyd yn Natganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Mae addysg uwch, yn arbennig, yn weithgaredd byd-eang ac rydym yn gwerthfawrogi ein cysylltiadau academaidd â phrifysgolion ledled y byd. Mae natur ryngwladol addysg uwch yn golygu ei bod yn rym ar gyfer dealltwriaeth, goddefgarwch a pharch rhwng pobloedd.”

Ewch i: www.dec.org.uk