Cymunedau a Chydweithio
Mae ein delfryd byd-eang wedi’i seilio ar gysylltiadau cryf a gwerthfawr y Brifysgol gyda chymunedau lleol a rhanbarthol. Mae Prifysgol Caerdydd yn gymuned fyd-eang, ac mae’r holl gysylltiadau rhyngwladol ac effaith ein gwaith yn fyd-eang yn adlewyrchu hynny. Mae hyn yn pwysleisio pa mor bwysig yw cymunedau lleol i ni, boed yn ninas Caerdydd neu mewn gwahanol rannau o Gymru.
Dim ond cipolwg yn unig ar rai o’n cysylltiadau a’n trefniadau cydweithio sydd yma. Y nod yw defnyddio’r tudalennau hyn i ddatblygu a chydnabod y cysylltiadau pwysig hyn ymhellach.
- Iechyd y genedl
Mae gan y Brifysgol ran bwysig i’w chwarae wrth hybu a diogelu iechyd y genedl. Mae hyn ar ei amlycaf yng ngwaith ein Hysgolion ym maes iechyd, sy’n cynnal gwaith ymchwil o fri rhyngwladol mewn gwasanaethau biofeddygol, clinigol ac iechyd ac yn cynnig addysg a hyfforddiant proffesiynol mewn meddygaeth, deintyddiaeth, fferylliaeth, optometreg, nyrsio a’r meysydd cysylltiedig. - Cefnogi achosion da
Mae staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cefnogi nifer o achosion da i’r carn, trwy gymryd rhan mewn digwyddiadau codi arian corfforaethol dan law’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr — ac ar raddfa fwy — trwy gefnogi elusennau a grwpiau cymuned o bob math yn unigol. - Prifysgol i bawb
Cynhwysiant ac amrywiaeth yw rhai o’n gwerthoedd pwysicaf ni, ac mae gan y Brifysgol hanes da o groesawu myfyrwyr o bob cefndir cymdeithasol, ethnig ac ati..

