Ffeithiau a Ffigurau
- Am fod gan Brifysgol Caerdydd dros 28,000 o fyfyrwyr a rhyw 6,000 o staff, mae ei chymuned academaidd yr un maint â thref fach.
- Mae hi’n gymuned sydd â throsiant blynyddol o £411 miliwn. (Cywir ym mis Tachwedd 2011).
- Gwneir ymchwil ym mhob un o’r 26 o Ysgolion ac ar unrhyw adeg benodol mae dros 1,800 o gontractau ymchwil ar waith.
- Mae gan y Brifysgol dros 5,000 o ystafelloedd gwely-ac-astudio mewn 14 o breswylfeydd.
- Bydd rhyw 8,850 o ddyfarniadau yn ystod 2011/12
Ceir gwybodaeth fanylach isod:
Cyrchfannau Graddedigion
Bydd ein cysylltiadau agos â chyflogwyr a chyrff proffesiynol ac ansawdd cydnabyddedig ein dysgu a’n haddysgu yn sicrhau y caiff graddedigion Caerdydd eu harfogi â’r sgiliau trosglwyddadwy, yr wybodaeth a’r agweddau y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
O ganlyniad, mae Caerdydd yn dal i gael ei thargedu gan gyflogwyr sy’n chwilio am raddedigion o safon uchel. Bob blwyddyn, caiff rhyw 90 y cant o’n graddedigion waith neu hyfforddiant proffesiynol neu fe ânt ymlaen i astudio’n ôl-raddedig yn fuan ar ôl graddio.
Dyma gyrchfannau hysbys diweddaraf graddedigion Caerdydd:
- Aiff 90% o raddedigion ymlaen i gael gwaith neu i astudio ymhellach
- Nid oedd 3% o raddedigion ar gael i weithio
- Mae 7% o raddedigion yn ddi-waith
“Yn Jaguar Land Rover, rydyn ni wedi meithrin perthynas lwyddiannus iawn â Phrifysgol Caerdydd. Pan ddown ni i’r digwyddiadau, mae hyd a lled y paratoi a gafodd y myfyrwyr, a’u cymhelliant, yn drawiadol iawn. Mae’n galondid gweld bod y myfyrwyr o’u blwyddyn gyntaf ymlaen yn dechrau meddwl am eu gyrfa a’u cyfleoedd, ac mae hynny’n glod i’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Rydyn ni eisoes wedi recriwtio amryw o Raddedigion ac Israddedigion o Brifysgol Caerdydd i’n busnes, a gobeithio y bydd y berthynas yn parhau.”
Laura Wigley – Rheolwraig Recriwtio Graddedigion, Jaguar Land Rover
Niferoedd y Myfyrwyr 2012/13
Prifysgol Caerdydd yw dewis cyntaf llu o fyfyrwyr galluog a gwneir rhyw 34,000 o geisiadau am ryw 4,500 o leoedd ynddi.
- 20,611 o Israddedigion
- 7,133 o Ôl-raddedigion
- Cyfanswm o 27,744
D.S. Cyfansymiau yw niferoedd y myfyrwyr ac nid ydynt yn cyfateb i nifer y myfyrwyr amser-llawn.
Llety Myfyrwyr 2012/13
Am fod gan Brifysgol Caerdydd amrywiaeth mawr o breswylfeydd sy’n darparu rhyw 5300 o ystafelloedd gwely-ac-astudio, gall myfyrwyr wneud cais am y preswylfeydd sy’n cyd-fynd orau â’u hoffterau, eu diddordebau a’u cyllidebau.
Mewn rhyw 70% o’r ystafelloedd gwely-ac-astudio ceir cyfleusterau cawod a thoiled en-suite, ac ym mhob ystafell o’r fath (ac eithrio yn Nhai/Fflatiau’r Myfyrwyr) mae pwynt cysylltu â rhwydwaith cyfrifiadurol academaidd Caerdydd.
Mewn rhai preswylfeydd ceir cyfleusterau sy’n cynnwys golchdai, canolfan gymdeithasol a chanolfan chwaraeon.
- 14 o Neuaddau Preswyl, a 4,994 o leoedd i fyfyrwyr
- Tai/Fflatiau i Fyfyrwyr, a 368 o leoedd i fyfyrwyr
- Cyfanswm o 5,362 o leoedd i fyfyrwyr
Niferoedd y Staff 2012/13
Mae gan y Brifysgol 6,150 o staff yn y categorïau a ddangosir isod:
| Full-time | Part-time | |
|---|---|---|
| Academaidd ac Ymchwil | 2,189 | 88 |
| Gwasanaethau Technegol | 205 | 41 |
| Cymorth Gweinyddol | 693 | 461 |
| Staff Rheoli a Staff Proffesiynol ac Arbenigol | 1,044 | 278 |
| Gwasanaethau Gweithrediadol | 205 | 146 |
| Cyfansymiau | 4,336 | 1,814 |
Updated annually - correct as at November 2012

