Hanes y Brifysgol

The first academic staff in 1883, probably in the garden of the Old Infirmary, Newport Road, the University's original home.
Agorodd y Brifysgol ei drysau am y tro cyntaf ar 24 Hydref 1883. Cafodd y corff newydd ei sefydlu’n ffurfiol drwy Siarter Frenhinol ym 1884, a’i enwi bryd hynny’n Goleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy. Roedd adeilad bach ar Heol Casnewydd yn gartref i 13 aelod staff academaidd mewn 12 adran, 102 o fyfyrwyr gradd amser llawn a 49 myfyriwr rhan-amser.
Heddiw, mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i dros 28,000 o fyfyrwyr a 6,000 o staff mewn adeiladau datblygedig gyda chyfarpar da sy’n ffurfio rhan osgeiddig o ganolfan ddinesig drawiadol Caerdydd. Trwy gydol ei hanes, mae’r Brifysgol wedi cynnal ymrwymiad i gyfle cyfartal i ddynion a menywod o bob cefndir. Cafodd yr ysgoloriaeth mynediad o’r gwerth uchaf a gynigiwyd i fyfyriwr yn nerbyniad 1883 ei rhoi i fyfyrwraig. Mae’n bosibl mai Millicent McKenzie oedd y fenyw gyntaf i gael ei galw’n Athro ym Mhrydain, ac yn sicr hi oedd aelod benywaidd cyntaf senedd Caerdydd o 1904 ymlaen.
Roedd y pynciau cyntaf a gynigiwyd gan y Brifysgol newydd fel a ganlyn: Groeg; Lladin; Mathemateg a Seryddiaeth; Rhesymeg ac Athroniaeth; Iaith a Llenyddiaeth Saesneg a Hanes; Ffiseg; Cemeg; Bioleg; Cymraeg; Ffrangeg; Almaeneg; a Cherddoriaeth. Erbyn troad yr 20fed ganrif roedd 11 disgyblaeth arall wedi’u hychwanegu. Mae’r tyfiant egnïol a’r arloesedd wedi parhau, ac erbyn hyn mae 27 Ysgol academaidd y Brifysgol yn cynnig ymchwil ac addysgu o bwys rhyngwladol ar draws y gwyddorau, y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol a gofal iechyd.
Uno
Yn y degawdau diwethaf, mae dau uniad wedi gyrru ehangiad y Brifysgol. Yn gyntaf unodd y Brifysgol ag Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru ym 1988, gan gyfuno cryfderau mewn nifer o feysydd a threblu’r incwm ymchwil mewn ychydig mwy na degawd. Mabwysiadodd y sefydliad unedig yr enw cyhoeddus Prifysgol Caerdydd ym 1998.
Yn 2004 unodd y Brifysgol â Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru gan greu Prifysgol mwy o faint a mwy deinamig o ganlyniad, a adeiladodd ar bartneriaeth hir rhwng y ddau sefydliad a buddsoddiad cysylltiedig o £60m. Mewn gwirionedd, aduniad oedd hwn gan mai adrannau meddygaeth gwreiddiol y Brifysgol a ffurfiodd Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru ym 1931.
University Coat of Arms
A new grant of arms was obtained from the College of Heralds, following the full legal amalgamation of University College, Cardiff and UWIST.
The most striking features of the University's Coat of Arms is the ‘supporters’ (rarely granted to universities or colleges) – the angel and the dragon- which derive from the crests of the parent institutions.
The motto is the closing phrase of the prayer for the Church Militant which, in the 1662 Book of Common Prayer is "Truth, Unity and Concord" ["Gwirionedd, Undod a Chytgord."]
Enw’r Brifysgol
Y flwyddyn ganlynol, rhoddwyd Siarter Atodol newydd yn ffurfiol i’r Brifysgol gan y Cyfrin Gyngor ar ran Ei Mawrhydi y Frenhines. Ar ôl treulio nifer o flynyddoedd yn sefydlu ei phrosesau sicrwydd ansawdd ei hun, daeth Caerdydd yn Brifysgol yn ei rhinwedd ei hun yn 2005, ac, o ganlyniad, yn annibynnol ar Brifysgol Cymru. Fel sefydliad annibynnol, mae Prifysgol Caerdydd yn gallu defnyddio’i phwerau ei hun i ddyfarnu graddau.
Y Brifysgol heddiw
Yr Athro Syr Martin Evans yn derbyn ei Wobr Nobel am Feddygaeth yn 2007 gan y Brenin Carl XVI Gustaf, Sweden.
Caiff Caerdydd ei chydnabod heddiw fel un o brifysgolion addysgu ac ymchwil mwyaf blaenllaw Prydain, ac mae’n fawr ei bri yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn 2007, enwyd yr Athro Syr Martin Evans o’r Ysgol Biowyddorau yn gyd-enillydd Gwobr Nobel am Feddygaeth am ei ran yn narganfyddiad bôn-gelloedd embryonig, sydd wedi agor posibiliadau newydd yn y frwydr yn erbyn afiechydon dirifedi. Mae ei lwyddiant yn tanlinellu safle rhyngwladol y Brifysgol yn ogystal â buddion pellgyrhaeddol yr ymchwil a’r addysgu sy’n digwydd yng Nghaerdydd.

