Uno
Unodd Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru â’i gilydd yn 2004 i greu Prifysgol mwy deinamig gyda chynnydd yn ein galluoedd a’n cynwyseddau ar sail ein huniad a’r buddsoddi strategol ychwanegol a gysylltir â hynny
Arweiniodd yr uno at welliannau o ran profiad y myfyrwyr, o addysgu a dysgu at wasanaethau cefnogi, cyfleoedd rhyngddisgyblaethol newydd a rhagolygon gyrfa cyffrous i’r staff, gyda gwasanaeth atgyfnerthedig ac enillion i’n rhanddeiliaid, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
Gwnaed yr uno’n bosibl drwy fuddsoddiad o £60 miliwn, gan gynnwys cyllido gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, y ddwy brifysgol, Cronfa Buddsoddi Ymchwil Gwyddonol y DU ac asiantaethau eraill.
Mae’r buddsoddi arwyddocaol hwn wedi cyllido’r broses uno, penodiadau staff newydd, buddsoddi cyfalaf a datblygu yr isadeiledd ymchwil a fydd yn galluogi gwneud ymchwil fiofeddygol arloesol yng Nghaerdydd a gwireddu cynlluniau ymchwil uchelgeisiol a fydd yn dod â buddiannau i Gymru a’r byd.

