Rheolaeth a Gweinyddiaeth
Y mae Prifysgol Caerdydd yn gweithredu yn ôl fframwaith sydd yn seiliedig ar ei Siartr Brenhinol, Statudau a Gorchmynion ac fe’u gweithredir gan weinyddiaeth gref.
Cyfansoddiad
- Siartr - Yn diffinio amcanion, pwerau a swyddogion y Brifysgol, ac egwyddorion fel y gallu i ddysgu ac arholi.
- Statudau - Yn cynnwys rheolau yn ymwneud â chyrff statudol, aelodau a swyddogion sefydliad y Brifysgol.
- Gorchmynion - Yn ymwneud â’r modd y rheolir y Brifysgol yn ôl fframwaith cyffredinol y Siartr a’r Statudau.
Llys, Cyngor, Senedd a Phwyllgorau
- Llys - Yn derbyn yr adroddiad blynyddol ac yn penodi’r Llywydd, Is-lywyddion ac aelodau’r Llys a’r Cyngor.
- Cyngor - Y Cyngor yw’r awdurdod gweithredol ac y mae’n gyfrifol am reoli cyllid y Brifysgol a phenodi penaethiaid adrannau.
- Senedd - Y Senedd yw’r prif awdurdod academaidd sydd yn pennu polisïau addysg y Brifysgol.
- Pwyllgorau - Y mae’r pwyllgorau yn cyflawni nifer o swyddogaethau a ddiffinir gan eu cylch gorchwyl yn y Gorchmynion.
Colegau ac Ysgolion
- Colegau ac Ysgolion - Cyflawnir gwaith academaidd Prifysgol Caerdydd gan 28 ysgol, a rennir rhwng dau goleg — Coleg Meddygol Cymru, Bywydeg, Gwyddorau Bywyd ac Iechyd a Choleg y Dyniaethau a’r Gwyddorau.
Bwrdd y Brifysgol a Chyfarwyddwyr
- Bwrdd y Brifysgol - Mae’r Bwrdd yn cynghori’r Is-Ganghellor ar y Cynllun Strategol ac mae’n cynnwys yr Is-Ganghellor, y Dirprwy Is-Ganghellor, pum Dirprwy Is-Ganghellor, Deon Dyfodol Strategol ac Astudiaethau Rhyngddisgyblaethol, Cadeirydd y Penaethiaid Ysgol a phum Cyfarwyddwr y Cyfarwyddiaethau cynhaliol.
- Cyfarwyddiaethau’r Brifysgol - Mae pump o Gyfarwyddiaethau yn rhoi cymorth strwythurol datganoledig ar ystod o feysydd portffolio penodol.

