Partneriaethau
Mae partneriaethau a chydweithio yn allweddol i’n Cenhadaeth ac i’n llwyddiant.
Bydd cysylltiadau o’r fath yn cychwyn yn y Brifysgol ei hun lle y crëir mwy a mwy o dimau amlddisgyblaethol ar draws ein hysgolion academaidd i gydweithio ar addysgu ac ymchwilio ac ar brosiectau eraill. Gall y timau gynnig persbectif ffres ac ehangach ar faterion llosg, sialensiau a chyfleoedd a bydd cydweithio felly’n esgor yn aml ar gynnydd sy’n deillio o feddwl yn hynod arloesol. Yn yr un ysbryd, mae gennym ni gysylltiadau sydd o fudd i ni ac i brifysgolion blaenllaw ledled y byd, a bydd llawer o gydweithio ar ymchwilio ac addysgu a chyfnewidiadau cysylltiedig rhwng y staff a’r myfyrwyr.
Mae gennym ni bartneriaethau niferus a gwerthfawr iawn yn y rhanbarth. Perthynas weithio nodedig o agos yw honno â GIG Cymru, ac ymhlith y partneriaethau agos eraill mae’r rhai â Llywodraeth Cymru a Dinas a Sir Caerdydd. Bydd pob un ohonynt yn cyfrannu at lunio polisïau ar sail ymchwil. Mae’r cysylltiadau hynny â llywodraethau, eu hasiantaethau a chyrff cysylltiedig yn ymestyn ar hyd a lled y byd ac yn cynnwys gwaith gyda’r Cenhedloedd Unedig, Mudiad Iechyd y Byd a NATO.
Yn yr un modd, mae’n partneriaethau ni â busnesau a chwmnïau masnachol yn rhai lleol a byd-eang. Mae’n Canolfan Rhwydwaith Arloesi a’n Canolfan Peirianneg Gweithgynhyrchu yn nodedig iawn am helpu mentrau bach a chanolig eu maint. Yn rhyngwladol, yr ydym yn gweithio gyda chwmnïau amlwladol Sony ac IBM.

