Addysgu
Blaenoriaeth uchel gan y Brifysgol yw darparu amgylchedd ysgogol sy’n helpu ac yn hybu’r dysgu a’r addysgu.
Mae’r dysgu a’r addysgu yng Nghaerdydd yn datblygu’r sgiliau deallusol a’r hunanddibynolrwydd sy’n arfogi ein myfyrwyr i ymdrin â chymhlethdod ac ansicrwydd ac i gwestiynu a dadansoddi syniadau uniongred. Yn ogystal â darparu lefel uchel o sgiliau a gwybodaeth pwnc-benodol, mae’r addysgu’n sicrhau bod y rhain yn sgiliau "trosglwyddadwy" a fydd o werth i’w myfyrwyr gydol eu hoes.
Cynhelir ein dysgu a’n haddysgu mewn amgylchedd ymchwil lle bydd y myfyrwyr yn elwa o ryngweithio ag ymchwilwyr sy’n gweithio ar gyrion eithaf gwybodaeth yn eu disgyblaethau. Gan fod yr ymchwil a wneir yn y Brifysgol yn egnïol ac arloesol, fe grëir amgylchedd ysgogol i astudio ynddo.
Cafodd yr addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd ei gymeradwyo’n gadarn mewn archwiliad a wnaed gan Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch yn ddiweddar. Ar ôl cyf-weld myfyrwyr a chyfranddeiliaid eraill ac archwilio miloedd o ddogfennau Prifysgol Caerdydd, fe gadarnhaodd yr Archwiliad y gall myfyrwyr heddiw ac yfory, rhieni, athrawon a chyflogwyr graddedigion barhau i fod â phob ffydd yn ansawdd a safonau dyfarniadau a darpariaeth Caerdydd.
Yn ogystal â’r llu rhaglenni astudio sydd ganddi i israddedigion ac ôl-raddedigion, Prifysgol Caerdydd, drwy Ganolfan Caerdydd ar gyfer Dysgu Gydol Oes, yw darparwr mwyaf addysg oedolion yng Nghymru. Addysgir 700 o’i chyrsiau mewn rhyw 30 o ganolfannau ledled De Ddwyrain Cymru. Mae gweithgareddau’r Brifysgol ym maes dysgu gydol oes hefyd yn cwmpasu gwaith datblygu proffesiynol i gyflogwyr, gan gynnwys llunio a chyflwyno cyrsiau pwrpasol.

