Cadeirydd y Cyngor
Mr John Jeans CBE
Daeth John Jeans yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Caerdydd ym mis Ionawr 2012. Mae wedi cael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau Dyfeisiadau Meddygol, Fferyllol a Diagnostig, ac wedi gwasanaethu’r Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) fel ei Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol cyntaf a’i Brif Swyddog Gweithredol o Ionawr 2009 i Orffennaf 2011.
Cyflawnodd rolau uwch yn GE Healthcare a Nycomed Amersham International PLC (a ddaeth yn GE Healthcare nes ymlaen), gan gynnwys Cadeirydd GE Healthcare Limited a Llywydd Life Sciences Commercial Operations. Yn ystod ei amser gyda’r cwmni, roedd yn gyfrifol am ddatblygu mentrau twf sylweddol ar draws y busnes yn y DU. Hefyd, lansiodd nifer o fentrau busnes newydd, gan gynnwys gwasanaeth delweddu clinigol ar gyfer y diwydiant fferyllol.
Fel yr arweinydd gweithredol uchaf yn MRC, roedd Mr Jeans yn uniongyrchol atebol am yr holl swyddogaethau corfforaethol, rheoli rhanbarthol, prosiectau mawr a rhaglenni mewnol penodol. Helpodd i ailstrwythuro rhyngweithiadau’r Cyngor â diwydiant, ac arweiniodd rhan yr MRC mewn creu Sefydliad Francis Crick, gan gynnwys sicrhau cyllid gan y Llywodraeth.
Cafodd Mr Jeans swyddi uwch ym maes rheoli cyffredinol, yn ogystal â gwerthu, marchnata, gweithgynhyrchu, ymchwil a datblygu, a swyddogaethau gweithredu, gan gynnwys penodiadau bwrdd yn Siapan, UDA ac Ewrop.
Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd MRC Technology ac yn aelod o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru.
Yn 2012, cafodd CBE am wasanaethau i Wyddorau Bywyd, Gofal Iechyd a Gwyddoniaeth.

