Skip to content
Skip to navigation menu

 

Cyfarwyddwr y Gofrestrfa, Llywodraethiant a Myfyrwyr

Dr Chris Turner

Dr Chris Turner

Penodwyd Dr Chris Turner yn Gyfarwyddwr y Gofrestrfa, Llywodraethu a Myfyrwyr ym mis Gorffennaf 2008. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn darparu amrywiaeth o wasanaethau’r gofrestrfa a gwasanaethau cymorth eraill i’r ysgolion academaidd a’r gymuned myfyrwyr yn gyffredinol. Mae ganddi rôl bwysig hefyd o ran cynghori ar bolisi academaidd a phrosesau sicrwydd ansawdd, a’u gweithredu. Mae Dr Turner yn gyfrifol am sicrhau bod y prosesau llywodraethu, gan gynnwys system y pwyllgorau a chydymffurfio â gofynion deddfwriaethol a gofynion rheoleiddio eraill, yn effeithiol. Mewn perthynas â’i rôl fel ysgrifennydd y Cyngor, ei deitl yw Ysgrifennydd y Brifysgol. Mae gan rai o adrannau’r Gyfarwyddiaeth ddimensiwn allanol, gan gynnwys Uned Gyswllt y GIG, Gwasanaethau Cymraeg a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd. Ef yw enwebai presennol y Brifysgol ar Ymddiriedolaeth GIG Cwm Taf.

Mae gan Dr Turner radd a doethuriaeth mewn Hanes o Brifysgol Aberystwyth ac yn ystod ei yrfa, mae wedi gweithio mewn pedair Prifysgol yng Nghymru - Bangor, Aberystwyth, Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru, lle bu’n Ysgrifennydd y Coleg, ac yna yn 2004, ymunodd â Phrifysgol Caerdydd fel Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.