Deon Astudiaethau Rhyngddisgyblaethol
Yr Athro Peter Halligan
Daeth Peter Halligan PhD DSc FBPsS FPSI FMedSci yn Ddeon Astudiaethau Rhyngddisgyblaethol ym mis Awst 2006. Mae’n Athro Niwroseicoleg, a than fis Hydref 2006, roedd yn Gyfarwyddwr Prosiect Canolfan Delweddu ac Atgyweirio’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).
Dechreuodd ei hyfforddiant cynnar mewn seicoleg, athroniaeth ac addysg yng Ngholeg Prifysgol Dulyn ac wedyn treuliodd 15 mlynedd ym Mhrifysgol Rhydychen yn gweithio yn yr Adrannau Niwroleg Clinigol a Seicoleg Arbrofol.
Ers ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2000 fel Cymrawd Ymchwil Uwch MRC a Chymrawd-athro Ymchwil Caerdydd, mae wedi chwarae rôl ganolog o ran sefydlu CUBRIC, sef Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol Cymru (WICN), a Chanolfan UnumProvident ar gyfer Ymchwil Seicogymdeithasol ac Anabledd, Cyfres Seminarau Niwrowyddoniaeth Wybyddol Caerdydd a phrosiect MindArt.
Mae’r Athro Halligan, sy’n sefydlwr a chydolygydd Cognitive Neuropsychiatry, yn Gymrawd Cymdeithas Seicolegol Prydain, ac yn 2005, enillodd Wobr y Llywydd am gyfraniadau eithriadol i seicoleg.
Mae llawer o’i ymchwil yn rhyngddisgyblaethol ac mae wedi cyhoeddi mwy na 140 o bapurau a 10 llyfr yn rhyngwladol.

