Dirprwy Is-Ganghellor
Yr Athro Elizabeth Treasure
Yr Athro Elizabeth Treasure yw Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, ac mae hefyd yn gweithio fel ymchwilydd, athro a chlinigwr.
Roedd yr Athro Treasure yn Ddeon ac yn Bennaeth yr Ysgol Ddeintyddiaeth rhwng 2006 a 2010, yn darparu arweinyddiaeth bwysig mewn addysgu deintyddiaeth, ymchwil a gofal cleifion. Roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Adrannol Adran Ddeintyddol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae diddordebau ymchwil yr Athro Treasure yn canolbwyntio ar effeithiolrwydd clinigol, epidemioleg a threialon clinigol. Bu’n brif ymchwiliwr yn y ddau Arolwg diwethaf o Iechyd Deintyddol Oedolion, bu’n cadeirio arolwg o’r gweithlu deintyddol yng Nghymru ac mae wedi gweithredu fel ymgynghorydd gwyddonol i adran ddeintyddol yr Adran Iechyd.
Yn 2006, dyfarnwyd iddi Fedal John Tomes Cymdeithas Ddeintyddol Prydain am fod yn flaenllaw ym maes gwyddoniaeth ac am wasanaeth rhagorol i’r proffesiwn. Roedd y wobr yn cydnabod ei defnydd o wyddoniaeth i ddylanwadu ar rai o’r materion pwysicaf yn ymwneud ag iechyd y geg ym Mhrydain.

