Dirprwy Is-ganghellor Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd
Yr Athro Patricia Price BA (Anrhydedd) PhD CPsychol AFBPsS FHEA
Yr Athro Patricia Price yw Dirprwy Is-ganghellor Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd. Hi sy’n gyfrifol am raglenni astudiaeth y Brifysgol, safonau academaidd ac ansawdd profiad y myfyrwyr. Mae ei chyfrifoldebau penodol yn cynnwys goruchwylio datblygiad strategaeth addysg y Brifysgol, ei gweithredu a’i monitro; ansawdd profiad y myfyrwyr yng Nghaerdydd; goruchwylio Coleg Graddedigion y Brifysgol; a gweithgareddau ehangu mynediad y Brifysgol. Fel Dirprwy Is-ganghellor, mae’r Athro Price yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol hefyd.
Mae’r Athro Patricia Price yn Seicolegydd Iechyd Siartredig sydd wedi gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd ers 1996. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gleifion sydd â chlwyfau cronig nad ydynt yn gwella - yn enwedig cleifion sydd ag wlserau traed diabetig ac ôl-effeithiau anafiadau llosgi: mae ei gwaith yn cynnwys mesur profiadau cleifion o ran byw gyda chlwyfau, ymwybyddiaeth cleifion o risg, profiad gofal cleifion, a mesur canlyniadau nad ydynt yn feddygol, gan gynnwys economeg iechyd, ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd a dulliau o werthuso gofal. Yn ystod ei hamser yng Nghaerdydd, mae’r Athro Price wedi bod yn Gyfarwyddwr Uned Ymchwil Gwella Clwyfau’r Brifysgol (2002-2006) ac hi yw Deon a Phennaeth Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd y Brifysgol (2010 – hyd yma)
Mae gan yr Athro Price hanes sylweddol o ennill cyllid allanol ar gyfer ymchwil, gan gynnwys Treialon Clinigol Ar-hap a Reolir aml-ganolfannol yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn ystod ei gyrfa, mae’r Athro Price wedi cyhoeddi dros 150 o erthyglau mewn cyfnodolion a phenodau mewn llyfrau a adolygir gan gymheiriaid , ac mae’n adolygydd ar gyfer amrywiaeth o gyrff dyfarnu grantiau ym maes iechyd. Mae’n aelod o fyrddau golygyddol nifer o gyfnodolion ac mae’n Ymgynghorydd Ystadegol gydag International Wound Journal.
Yr Athro Price yw Cadeirydd Grŵp Deilliannau Cleifion Cymdeithas Rheoli Clwyfau Ewrop, and mae newydd gwblhau saith mlynedd fel Aelod o’r Cyngor ac Ysgrifennydd y sefydliad. Hi yw Cadeirydd Grŵp Llywio Rhwydwaith Adsefydlu Cymru Gyfan. Mae’n Ymddiriedolwr gydag Interburns, sef elusen ar gyfer addysg a hyfforddiant ym maes gofal llosgiadau mewn gwledydd incwm isel-canolig, ac mae newydd gymryd rhan mewn adolygiad grŵp rhyngwladol o safonau gofal yn Nepal.
Derbyniodd yr Athro Price swydd Dirprwy Is-ganghellor Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd ym mis Medi 2012.
Yr Athro Patricia Price
Pro Vice-Chancellor, Student Experience and Academic Standards
Contact via Diary Secretary:
Lisa Pearson
Tel: 029 2087 0651
Email: PearsonLJ@cardiff.ac.uk


