Dirprwy Is-Ganghellor, Rhyngwladol ac Ymgysylltu
Yr Athro Hywel Thomas FREng FRS
Yr Athro Hywel Thomas yw’r Dirprwy Is-Ganghellor, Rhyngwladol ac Ymgysylltu ac mae’n gyfrifol am weithgareddau, partneriaethau ac enw rhyngwladol y Brifysgol ac ymgysylltiad y Brifysgol yng Nghymru. Mae ei gyfrifoldebau penodol yn cynnwys goruchwylio datblygu strategaeth rhyngwladoli’r Brifysgol a’r broses o’i rhoi ar waith a’i monitro; cydweithio rhyngwladol ym maes ymchwil gan gynnwys cyfleoedd cyllid mewn perthynas ag ymchwil ryngwladol; a chyfleusterau a sefydliadau ymchwil ar y cyd yn ymwneud â chydweithio rhyngwladol; a chyfranogiad y Brifysgol mewn cysylltiadau rhyngwladol. Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae’r Athro Thomas hefyd yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.
Mae’r Athro Thomas yn Athro Peirianneg Sifil ac yn Gyfarwyddwr-Sylfaenydd y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol yn yr Ysgol Beirianneg.
Fel cyn Gyfarwyddwr yr Ysgol Beirianneg o 2002 hyd at 2012, mae wedi gwasanaethu hefyd fel Rhag-Ddirprwy Is-Ganghellor, Ymgysylltu.
Mae’r Athro Thomas yng Nghaerdydd er 1980, ar ôl pum mlynedd o waith ym maes diwydiant. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn amrywio o adfywio tir i broblemau amlffiseg/geocemeg cypledig mewn priddoedd, i faterion sy’n ymwneud â chynaliadwyedd yn gyffredinol.
Yn ystod ei yrfa academaidd nodedig yng Nghaerdydd, dyfarnwyd incwm ymchwil allanol gwerth mwy na £28 miliwn iddo, ynghyd â’i gydweithwyr, a dderbyniwyd i raddau helaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd a Chynghorau Ymchwil y DU. Mae wedi llunio mwy na 400 o bapurau technegol ac adroddiadau ac mae wedi darlithio’n helaeth yn y DU a thramor ar ei ymchwil.
Mae’r Athro Thomas yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil, yn Gymrawd Cymdeithas Ddaearegol Llundain, yn Gymrawd y Sefydliad Ymchwil Trafnidiaeth, yn Gymrawd yr Academi Frenhinol Peirianneg ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae hefyd yn Gadair UNESCO mewn Datblygu Geoamgylchedd Cynaliadwy, gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar waith gydag India a Gorllewin Affrica. Yn 2012, etholwyd yr Athro Thomas yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol am ei ganfyddiadau arloesol mewn perthynas â phrosesau peirianneg geoamgylcheddol.
Professor Hywel Thomas
Pro Vice-Chancellor, International & Engagement
Contact via Diary Secretary:
Lisa Pearson
Tel: 029 2087 0651
Email: PVC-International@cardiff.ac.uk

