Skip to content
Skip to navigation menu

 

Dirprwy Ganghellor Rhyngwladol Anrhydeddus

Yr Athro Zhong Binglin

Professor Zhong Binglin

Mae’r Athro Zhong Binglin wedi bod yn Llywydd Prifysgol Normal Beijing ers 2001. Cyn hynny, ef oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Adran Addysg Uwch y Weinyddiaeth Addysg yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina. Mae ef hefyd yn Athro Peirianneg Mecanyddol ym Mhrifysgol Southeast yn Nanjing, ac yn Athro ymweliadol ym Mhrifysgol Tsinghua yn Beijing.

Ganed yr Athro Zhong ym Beijing yng Ngorffennaf 1951, ac mae wedi cael gyrfa fawreddog mewn Addysg Uwch yn Tsieina ar ôl ennill ei Fagloriaeth mewn Peirianneg Mecanyddol yn Sefydliad Technoleg Nanjing ym 1977. Enillodd Radd Meistr mewn Peirianneg Mecanyddol ym Mhrifysgol Southeast Nanjing ym 1986, a’i Ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ym 1994 o dan oruchwyliaeth Dr John Brandon. Daeth yr Artho Zhong i gysylltiad â Chaerdydd o ganlyniad i gyswllt a ffurfiwyd gan ei fentor, yr Athro Huang Ren, a anfonodd myfyriwr ymchwil i Gaerdydd am y tro cyntaf ym 1986. Ar ôl clywed adroddiadau cadarnhaol am ymchwil peirianneg yng Nghaerdydd, daeth yr Artho Zhong i Gaerdydd i astudio ym 1990, yn hytrach nag i Montreal, sef ei gyrchfan wreiddiol. Tra roedd yma, penderfynodd yr hoffai gyflawni ei Ddoethuriaeth yng Nghaerdydd, ac felly dechreuodd ei gysylltiad hir â Phrifysgol Caerdydd.

Ers 1977, mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau; roedd ym Mhrifysgol Southeast, Nanjing tan 1996, lle bu’n Is-gadeirydd a Chadeirydd yr Adran Peirianneg Mecanyddol rhwng 1991 a 1994, ac yn Is-lywydd Prifysgol Southeast rhwng 1994 a 1996. Ar ôl amser byr gyda Chomisiwn Addysg Wladol Tsieina, penodwyd yr Athro Zhong ym 1996 yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Addysg Uwch. Yn 2001, fe’i penodwyd yn Llywydd Prifysgol Normal Beijing.

Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod y "People's Daily" wedi adrodd ym mis Medi 2000 bod "system addysg uwch Tsieina wedi gwneud datblygiadau allweddol a chyflawniadau pendant yn ystod 1996-2000". Arweiniodd yr Athro Zhong y cyflawniadau hynny, a rhai o’r newidiadau mwyaf i system Addysg Uwch Tsieina hyd yn hyn. Dangosodd ystadegau’r Comisiwn Cynllunio Datblygu Gwladol, hyd at fis Ebrill 2000, fod 1,814 o brifysgolion a cholegau yn Tsieina gyda 11 miliwn o fyfyrwyr, ac roedd y gyfradd cofrestru wedi cyrraedd 11% o bobl ifanc rhwng 18 a 22 mlwydd oed. Wrth i Tsieina barhau i ddiwygio’r system addysg, unodd 450 o brifysgolion a cholegau yn 188 o brifysgolion. Roedd yr Athro Zhong wedi hir sylweddoli gwerth addysg; amlygodd yn gyhoeddus rôl gwyddoniaeth, technoleg ac addysg o ran gwireddu nodau Tsieina.

Hefyd, goruchwyliodd y buddsoddiad mwyaf mewn Addysg Uwch yn Tsieina – sef Prosiect 211. Nod y prosiect oedd codi ansawdd addysg, ymchwil, rheoli a rhedeg prifysgolion mewn oddeutu 100 o brifysgolion allweddol ledled Tsieina i ffurfio sylfaen cronfa o bobl ddawnus i reoli adeiladwaith economaidd Tsieina yn y dyfodol. Gan oruchwylio’r gweithgaredd rhyfeddol a chyffrous hwn, dangosodd yr Athro Zhong ragwelediad, ymwybyddiaeth gymdeithasol a phenderfyniad.

Trwy gydol cyfnod o heriau a chyflawniadau mawr iawn yn ei rôl yn y Weinyddiaeth Addysg, parhaodd yr Athro Zhong i ddod o hyd i amser a’r ymroddiad yr oedd eu hangen i barhau â’i ddiddordebau ymchwil academaidd, a goruchwylio myfyrwyr peirianneg ifanc, dawnus ym Mhrifysgol Southeast. Ef hefyd yw Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Tsieina Prifysgol Caerdydd. Dros y blynyddoedd, mae wedi ymgymryd â rôl flaenllaw mewn nifer o gymdeithasau gwyddonol yn Tsieina, gan gynnwys y Gymdeithas Genedlaethol Peirianneg Mecanyddol a’r Gymdeithas Genedlaethol Peirianneg Dirgryndod. Roedd yn aelod o’r Comisiwn Proffesiynol ar Ddadansoddi Cyfres Amser ar gyfer Cymdeithas Tebygolrwydd ac Ystadegau Tsieina, yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cangen Dwyrain Tsieina o Gymdeithas Peirianneg Dirgryndod Tsieina, ac yn Olygydd Journal of Dynamic Analysis, Data Acquisition and Signal Processing. Mae ei ymchwil wedi cael ei ategu gan Academi Gwyddorau Tsieina, ac Academi Gwyddorau Cymdeithasol Tsieina.

Yn ei rôl bresennol fel Llywydd Prifysgol Normal Beijing, un o’r prif sefydliadau yn Tsieina ac un a berchir yn fawr, yn arbennig ar gyfer ymchwil ym meysydd seicoleg ac addysg, mae gan Llywydd Zhong gysylltiadau agos â Chaerdydd o hyd. Mae wedi dychwelyd i Gaerdydd nifer o weithiau ac mae wedi cynnal ymweliadau o Gaerdydd i Brifysgol Normal Beijing hefyd. Ym mis Tachwedd 2005, mewn ymweliad a gynhaliwyd gan Weinidog o Brydain, John Dennis, mynegodd Llywydd Zhong, sydd eisoes yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd, yn raslon y byddai’n derbyn rôl Is-lywydd Rhyngwladol Anrhydeddus cyntaf Prifysgol Caerdydd. Rhoddwyd yr anrhydedd hon iddo’n ffurfiol mewn seremoni yn Beijing ddydd Llun 2 Ebrill 2007, gan Weinidog o Brydain, Barbara Woodward, ac mae’n effeithiol tan 31 Gorffennaf 2010.