Skip to content
Skip to navigation menu

 

Dirprwy Ganghellor

Menna Richards

Menna Richards

Ms Menna Richards oedd y ddynes gyntaf i gael ei phenodi’n Rheolydd BBC Cymru, swydd y bu’n ei chyflawni rhwng 2000 a 2011.

Cyn hynny, bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr HTV Cymru, unwaith eto'r ddynes gyntaf i gyflawni’r swydd honno.

Ers gadael y BBC llynedd, mae hi wedi cael ei phenodi i nifer o swyddi anweithredol gyda Dŵr Cymru, Cymdeithas Adeiladu’r Principality ac Opera Cenedlaethol Cymru.

Yn y gorffennol, bu’n Gadeirydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn aelod o fwrdd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd ac yn aelod o Gyngor Prifysgol Caerdydd rhwng 1995 a 2001. Bu hefyd yn aelod o Lys y Brifysgol am saith mlynedd o 1995 ymlaen, ac yn aelod o’i Bwyllgor Cysylltiau Allanol am dair blynedd o 1998 ymlaen.

Ar 1 Awst 2007, daeth Menna yn Is-lywydd Prifysgol Caerdydd – swydd y bydd yn ei chyflawni tan 31 Gorffennaf 2015; a daeth yn Gymrawd er Anrhydedd yn y Brifysgol ar 17 Gorffennaf 2007. Mae hi hefyd yn aelod o Banel Ymgynghorol Rhyngwladol Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae Menna yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth; Prifysgol Glyndŵr; Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (lle mae hi hefyd yn Is-lywydd); Y Drindod Dewi Sant; Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ac yn gymrawd yng Nghymdeithas Frenhinol y Teledu. Dyfarnwyd yr OBE iddi am wasanaethau i ddarlledu yn 2010.