Skip to content
Skip to navigation menu

 

Adnoddau Ffisegol ac Ariannol

Mike Davies 

Mike Davies

Ymunodd Mike Davies â Phrifysgol Caerdydd ym 1987 cyn i Goleg Prifysgol Caerdydd ac UWIST uno. Mae’n gyfrifydd CIPFA cymwysedig a gweithiodd i Gyngor Sir De Morgannwg yn flaenorol.

Penodwyd Mr Davies yn Gyfarwyddwr Cyllid ym 1994 ac ymgymerodd â rôl Cyfarwyddwr Cyllid ac Ystadau ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2000. Mae’n aelod o’r uwch dîm rheoli ac mae’n cynghori ar bob agwedd ar reoli ariannol a datblygu ystadau. Mae ei bortffolio hefyd yn cynnwys gwasanaeth preswylfeydd ac arlwyo’r Brifysgol, y gweithrediad diogelwch a chyfleusterau chwaraeon.