Skip to content
Skip to navigation menu

 

Llywydd ac Is-ganghellor

Yr Athro Colin Riordan BA PhD

Yr Athro Colin Riordan BA PhD

Y Llywydd a’r Is-ganghellor yw prif swyddog gweithredol y Brifysgol, gyda chyfrifoldebau ffurfiol ac eang dros arwain a rheoli’r Brifysgol. 
Dechreuodd yr Athro Colin Riordan yn ei swydd fel Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd ar 1 Medi 2012. Cyn hynny, ef oedd Is-ganghellor Prifysgol Essex ers mis Hydref 2007. Symudodd i Essex o Brifysgol Newcastle, lle y bu’n Ddirprwy Is-ganghellor a Phrofost y Gyfadran Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ers mis Awst 2005. Cyn ymuno â Phrifysgol Newcastle, bu’n addysgu ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, fel yr oedd ar y pryd, a Julius-Maximilians Universität-Würzburg yn yr Almaen.

Bu’r Athro Riordan yn addysgu Saesneg fel iaith dramor yn Julius-Maximilians-Universität Würzburg yn yr Almaen (1982-84), a bu’n Ddarlithydd, ac yna’n Uwch Ddarlithydd Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe (1986-1998). Fe’i penodwyd yn Athro Almaeneg ym Mhrifysgol Newcastle ym 1998, lle y bu tan iddo symud i Essex yn 2007. Mae wedi cyhoeddi’n eang ar lenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel, gan gynnwys golygu llyfrau ar yr awduron Jurek Becker, Uwe Johnson a Peter Schneider. Mae ei ddiddordebau ymchwil eraill yn cynnwys hanes syniadau amgylcheddol yn niwylliant yr Almaen.

Mae’n athro profiadol ac ymrwymedig, ac yn 2009, cadeiriodd ymchwiliad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr i ansawdd addysgu. Ef oedd Deon Astudiaethau Ôl-raddedig a Phennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Newcastle.

Mae’n aelod o Fwrdd Prifysgolion y DU, Sefydliad Edge a’r Uned Herio Cydraddoldeb, sy’n cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer staff a myfyrwyr mewn addysg uwch ledled pedair cenedl y DU. Fel cadeirydd Rhwydwaith Polisi Rhyngwladol ac Ewropeaidd Prifysgolion y DU, mae’n weithgar o ran hyrwyddo a datblygu rôl prifysgolion y DU mewn gwledydd tramor.

Yr Athro Colin Riordan
e-bost: V-C@caerdydd.ac.uk

Contact via Personal Assitant: Sunita Farnham
Tel: 029 2087 4835
e-bost: FarnhamS@cardiff.ac.uk