Dirprwy Ganghellor
Y Fonesig Lynn Jones Parry
Mae gan y Fonesig Lynn Jones Parry brofiad helaeth o swyddi addysgu uwch, yn y DU a thramor, ac mae hefyd yn cyfrannu’n llawn at waith y Gwasanaeth Diplomyddol ac yn cefnogi ei gŵr, Syr Emyr.
Enillodd y Fonesig Jones Parry radd anrhydedd mewn Sŵoleg o Gaerdydd, lle’r oedd yn Is-Lywydd Undeb y Myfyrwyr ym 1968/69. Fel athrawes, Pennaeth Adran a Phennaeth Tŷ, sicrhaodd ganlyniadau rhagorol ar gyfer disgyblion yn ysgolion y wladwriaeth ac mewn ysgolion preifat. Mae hi wedi addysgu yng Nghanada, lle cafodd Radd Athro hefyd mewn Cwnsela, ac yng Ngwlad Belg, lle’r oedd yn Bennaeth yr Adran Fioleg yn yr Ysgol Brydeinig ym Mrwsel.
Daliodd ati â’i gyrfa broffesiynol tra oedd hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at waith ei gŵr mewn pum swydd dramor, a arweiniodd yn y pen draw at ei benodi yn Gynrychiolydd Parhaol Prydain i’r Cenhedloedd Unedig. Roedd hyn yn cynnwys datblygu contractau, gweithio gyda llywodraethau a swyddogion ac, yn y pen draw, fel Llysgenhades i NATO ac wedyn i’r CU, yn rhedeg dau o Breswylfeydd Diplomyddol pwysicaf Prydain, ym Mrwsel ac Efrog Newydd.
Bu’r Fonesig Jones Parry yn gwasanaethu fel Llywydd Cymdeithas Prydain a’r Gymanwlad yn 2001-3 ym Mrwsel. Yn Efrog Newydd, roedd yn Llywydd Fforwm Rhyngwladol Merched y CU ac yn Aelod Bwrdd Off the Record, sef cangen Efrog Newydd o’r Gymdeithas Polisi Tramor fawreddog. Rhoddodd gyfres o ddarlithoedd hefyd ar DNA a geneteg, gan ennyn diddordeb yn y pwnc ymhlith oedolion yn Efrog Newydd nad oedd ganddynt unrhyw gefndir blaenorol mewn Bioleg.
Roedd y Fonesig Jones Parry hefyd yn Aelod Bwrdd ac yn wirfoddolwraig i’r elusen cymorth teuluol Homestart yn Llundain. Mae ei diddordebau yn cynnwys addysg, materion cyfoes a gwleidyddiaeth, darllen a chwaraeon. Mae ganddi hi a Syr Emyr ddau fab priod, Mark a Paul.

