Skip to content
Skip to navigation menu

 

Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd a Mentergarwch

Yr Athro Chris McGuigan BSc PhD

Yr Athro Chris McGuigan BSc PhD

Mae’r Athro Chris McGuigan yn Ddirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd a Mentergarwch ac mae’n gyfrifol am weithgarwch ymchwil ac arloesedd y Brifysgol, gan gynnwys masnacheiddio ac effaith economaidd ehangach y Brifysgol.  Mae ei gyfrifoldebau penodol yn cynnwys datblygu strategaeth ymchwil, arloesedd a mentergarwch y Brifysgol a’i geithredu a’i monitro; goruchwylio Sefydliadau Ymchwil traws-Brifysgol; a pharatoadau ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014. Fel y Dirprwy Is-Ganghellor, mae’r Athro McGuigan hefyd yn aelod o Bwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Diddordeb ymchwil pennaf Yr Athro Chris McGuigan yw darganfod a datblygu cyffuriau newydd ar gyfer HIV, hepatitis C, herpes, y ffliw, canser ac osteoarthritis. Fe yw dyfeisiwr tri ymgeisydd am gyffuriau newydd sydd yn cael profion clinigol ar hyn o bryd, FV-100 ar gyfer yr eryr, INX-189 ar gyfer hepatitis C ac NUC-1031 ar gyfer canser y pancreas.

Ymhlith ei gyflawniadau allweddol eraill, Yr Athro McGuigan yw dyfeisiwr  y ffosfforamidad ProTides, dull dosbarthu a darganfod cyffuriau newydd a gymhwyswyd gan GSK, Roche, NewBiotics, Inhibitex/BMS, Gilead/Pharmasset a Nucana Biomed, ac mae pum asiant yn derbyn treialon clinigol hyd yn hyn. Roedd dau o’i ddarganfyddiadau cyffuriau, INX-189 a FV-100, yn yrwyr allweddol y tu ôl i brynu Inhibitex gan BMS am $2.5Bn ym mis Ionawr 2012.

Mae’r Athro McGuigan yn gwasanaethu ar banel sector gwyddorau bywyd Llywodraeth Cymru, ac ef yw Llywydd Cymdeithas Wyddonol Caerdydd.

Yn ystod ei amser yng Nghaerdydd, enillodd Yr Athro McGuigan tua £10M mewn grantiau ymchwil a mwy na £2M mewn incwm trwyddedu. Mae wedi cyhoeddi dros 200 o bapurau a adolygwyd gan gymheiriaid ac mae wedi derbyn nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Cemeg Feddyginiaethol 2006 Cymdeithas Frenhinol Cemeg a noddir gan y diwydiant, Gwobr Cyflawniad Rhyngwladol 2004 GlaxoSmithKline a Gwobr Ysbydoli Cymru 2012.

Graddiodd Yr Athro McGuigan ym 1979 gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Birmingham lle enillodd ei Ddoethuriaeth mewn Dylunio Cyffuriau Gwrth-ganser hefyd ym 1982. Cafodd ei benodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd a Mentergarwch ym mis Medi 2012.

Contact via Personal Assistants:

For Pro Vice-Chancellor enquiries:

Michelle Campbell
Tel: 029 2087 0652
Email: CampbellM5@cardiff.ac.uk

For Medicinal Chemistry/School enquiries:

Helen Murphy
Tel: 029 2087 4537
Email: MurphyH@cardiff.ac.uk