Gwella Gwelededd
Sut i wella nodweddion gwelededd
Mae nifer o ffyrdd i chi allu optimeiddio’r ffordd rydych chi’n gweld tudalennau gwe:
Newid gosodiad eich porwr i:
- Newid maint a lliw testun
- Newid y lliwiau cefndir
- Newid hyd llinellau trwy newid maint a siâp ffenestr y porwr
- Gwrthwneud cynlluniau lliw tudalennau gwe.
Microsoft Internet Explorer
Er mwyn newid ffont a lliw testun yn barhaol ar dudalennau gwe:
- Ar y ddewislen ‘Tools’, cliciwch ar ‘Internet Options’
- Ar y tab ‘General’, cliciwch ar ‘Accessibility’
- Cliciwch ym mhob un o’r tri blwch fformatio
- Cliciwch ar ‘Ok’.
Mae arddull ffont testun ‘sans serif’ (e.e. Arial) yn haws i’w ddarllen na ffont ‘serif’ (e.e. Times New Roman). Er mwyn newid ffont y testun a ddefnyddir i arddangos tudalennau gwe:
- Ar y ddewislen ‘Tools’, cliciwch ar ‘Internet Options’
- Ar y tab ‘General’, cliciwch ar ‘Fonts’
- Yn y ddwy restr ‘Web page font’ a ‘Plain text font’, dewiswch y ffontiau yr hoffech eu defnyddio o’r rhestrau
- Cliciwch ar ‘Ok’
Er mwyn newid maint y testun:
- Ar y ddewislen ‘Tools’, cliciwch ar ‘Internet Options’
- Ar y tab ‘General’, cliciwch ar ‘Accessibility’
- Cliciwch yn y blwch ‘Ignore font sizes specified on web pages’
- Cliciwch ar ‘Ok’
- Ar ddewislen y ‘Browser’, cliciwch ar ‘View’
- Cliciwch ar ‘Text size’
- Dewiswch faint y ffont yr hoffech ei ddefnyddio (maint diofyn y testun yw ‘Medium’)
Er mwyn newid lliw'r testun a lliw'r cefndir a ddefnyddir i arddangos y tudalennau gwe:
- Ar y ddewislen ‘Tools’, cliciwch ar ‘Internet Options’
- Ar y tab ‘General’, cliciwch ar ‘Colours’
- Dad-diciwch y blwch ‘Use Windows Colours’
- Dewiswch y blwch nesaf at ‘Text’ a dewis y lliw sydd orau gennych
- Cliciwch ar ‘Ok’
- Dewiswch y blwch nesaf at ‘Background’ a dewis y lliw sydd orau gennych
- Cliciwch ar ‘Ok’
Er mwyn atal graffeg / delweddau rhag ymddangos ar dudalennau gwe:
- Ar y ddewislen ‘Tools’, cliciwch ar ‘Internet Options’
- Ar y tab ‘Advanced’, rholiwch i lawr i’r pennawd ‘Multimedia’
- Cliciwch ar y dewis graffeg (‘animations’, ‘videos’, ‘pictures’ a ‘images’) i dynnu’r ticiau
- Cliciwch ar ‘Apply’, ac yna cliciwch ar ‘Ok’
- Os yw’r raffeg / delweddau yn parhau i ymddangos, cliciwch ar ‘View’ ac yna ‘Refresh’ ar y bar offer, neu gwasgwch F5 i adnewyddu’r sgrin.
Er mwyn newid maint ffenestr y porwr:
- Ar y ddewislen ‘View’, cliciwch ar ‘Full Screen’ neu gwasgwch F11
- Mae yna ddewisiadau ychwanegol i deilwra tudalennau gwe i’w gwneud nhw’n haws i’w darllen:
- Ar y ddewislen ‘Tools’, cliciwch ar ‘Internet Options’
- Cliciwch ar y tab ‘Accessibility’
- Dewiswch y dewisiadau sydd ar gael i wella gwelededd.
Defnyddio eich taflenni arddull eich hun
Mae Internet Explorer yn caniatáu i chi ddefnyddio eich taflen arddull eich hun i fformatio pob tudalen gwe. Er enghraifft, mae hyn yn caniatáu i chi bennu meintiau ffont mawr neu gyfuniadau o liwiau testun a chefndir sy’n addas i chi. Cofiwch ystyried y gall hyn achosi canlyniadau anfwriadol i rai gwefannau.
- Ar y ddewislen ‘Tools’, cliciwch ar ‘Internet Options’
- Cliciwch ar y tab ‘Accessibility’
- Yn y blwch ‘User style sheet’, cliciwch yn y blwch ‘Format documents using my style sheets’
- Cliciwch ar ‘Ok’
- Cliciwch ar ‘Ok’ i gau’r blwch ‘Internet Options’.
Gellir creu taflenni arddull personol trwy ddefnyddio’r rhaglen wizard a cheir ar wefan TechDis.
Netscape Communicator
Er mwyn gwneud newidiadau i osodiadau eich porwr, dylech glicio ar ‘Edit’ yn gyntaf, a dewis ‘Preferences’.
Er mwyn newid ffont y testun:
- Cliciwch ar ‘Appearance’
- Cliciwch ar ‘Font’
- Dewiswch y ‘Variable Width Font’ a’r ‘Fixed Width Font’ yr ydych chi eisiau eu defnyddio
- Cliciwch ar ‘Ok’.
Os hoffech chi osod y ffontiau hyn ar gyfer pob defnydd yn y dyfodol ar eich porwr, cliciwch ar ‘Use my default fonts overriding document specified fonts’.
Er mwyn newid lliwiau’r testun a’r cefndir:
- Cliciwch ar ‘Appearance’
- Cliciwch ar ‘Colours’
- Dewiswch y blwch nesaf at ‘Text’ a dewis lliw
- Cliciwch ar ‘Ok’
- Dewiswch y blwch nesaf at ‘Background’ a dewis lliw
- Cliciwch ar ‘Ok’
- Cliciwch ar ‘Ok’ eto i gau ‘Preferences’.
- Er mwyn gosod y lliwiau hyn fel lliwiau diofyn eich porwr, cliciwch ar ‘Always use my colours, overriding document’.
Er mwyn atal graffeg / delweddau rhag ymddangos ar dudalen we:
- Cliciwch ar ‘Appearance’
- Cliciwch yn y blwch ‘Automatically load images’ i dynnu’r tic
- Cliciwch ar ‘Ok’.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â newid gosodiad eich porwr, cliciwch ar y ddewislen ‘Help’ ar far offer eich porwr, ar Waelod y Ffurflen.

