Canllawiau Technegol
Mae’r canllawiau technegol hyn yn nodi rhai o’r feddalwedd gynorthwyol sydd ar gael yn llyfrgelloedd ac ystafelloedd cyfrifiaduron Prifysgol Caerdydd, yn ychwanegol at wybodaeth ar siecbwyntiau Menter Hygyrchedd y We (WAI) Consortiwm y We Fyd Eang (W3C) a chanllawiau hygyrchedd gwe defnyddiol eraill.
Gellir darparu hyfforddiant ar gyfer y defnydd o feddalwedd gynorthwyol benodol gan staff y llyfrgell trwy’r Brifysgol ar gais. Er mwyn cael rhestr o feddalwedd a chaledwedd cynorthwyol eraill sydd ar gael, ewch i’r tudalennau technolegau cynorthwyol.
Am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyfleusterau hyn, gofynnwch i rywun wrth unrhyw ddesg wybodaeth yn y llyfrgell neu siaradwch â’r cyswllt anabledd yn y llyfrgell rydych chi’n dymuno ei defnyddio.
Am fwy o wybodaeth neu gyngor ar hygyrchedd y we, anfonwch neges e-bost at: accessibility@caerdydd.ac.uk.

