Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Amdanom Ni

Bioscience building

Mae Ysgol y Biowyddorau, Caerdydd yn un o’r adrannau biowyddorau mwyaf yn y DU gyda dros 100 o academyddion, 150 o staff ymchwil, dros 160 o fyfyrwyr ôl-radd a thua 2,000 o is-fyfyrwyr. Gyda’r adnoddau a chyfleusterau diweddaraf mae cyrsiau ac ymchwil yr Ysgol yn amredeg holl ystod bioleg o (eco) systemau cyfain i fioleg foleciwlaidd a strwythur proteinau.

Ymchwil

Students working in lab

Trefnir gwaith ymchwil yr Ysgol i chwe grŵp ymchwil: Bioamrywiaeth a Phrosesau Ecolegol, Bioleg Meinwe Gysylltiol, Geneteg, Microbioleg, Bioleg Cell Moleciwlaidd a Niwrowyddoniaeth.

Adlewyrchir safle rhyngwladol yr ymchwil yn y nawdd ariannol a dderbynia'r Ysgol. Yn 2005/2006 enillodd yr Ysgol £9.3 miliwn o gronfeydd elusennau megis Ymddiriedolaeth Wellcome, Ymgyrch Ymchwil Llid y Cymalau ac Ymchwil Cancr y DU, ynghyd â nawdd o gynghorau ymchwil a noddwyr diwydiannol. Sicrha ymchwil biolegol bosibiliadau unigryw a heriol mewn gwyddoniaeth sylfaenol er budd iechyd a’r amgylchedd. Cynigir hyfforddiant ôl-radd dros gyrsiau sy’n ymestyn tair neu bedair blynedd yn un o’r grwpiau ymchwil.

Mae apwyntiad diweddar Yr Athro Robert Huber, enillydd Gwobr Nobel, yn cynnig cyfle i ddatblygu ymchwil, traws-ddisgyblaethol strategol sy’n cryfhau cysylltiadau’r Ysgol ag ysgolion eraill ar draws Prifysgol Caerdydd.

Dysgu ac Addysgu yn yr Ysgol

Researcher analysing sample.

Mae ein cyrsiau gwyddonol i gyd ar level Anrhydedd ac mae’r Ysgol yn cyfrannu’n helaeth i gyrsiau Meddygol a Deintyddol y Brifysgol, mewn cydweithrediad â’r Ysgolion Meddygol a Deintyddol. Dosrennir y cyrsiau gradd i un o dri chategori: Gwyddorau Biolegol, Gwyddorau Biomoleciwlaidd a Gwyddorau Biofeddygol. Mae gan bob categori fodiwlau craidd yn y flwyddyn gyntaf sy’n cynnig posibiliadau i newid cwrs gradd ar ddiwedd y flwyddyn. Cynigir cyfle hefyd i dreulio blwyddyn mewn sefydliad tu allan i’r Brifysgol ac ennill profiad gwaith. Dyfarnwyd pob un o’n cyrsiau yn “rhagorol” yn yr Asesiad Safon Dysgu ddiwethaf a wmaed gan aseswyr annibynnol y Llywodraeth, ac yn ôl yr Arolwg Genedlaethol o Fyfyrwyr fe’u “perchir yn uchel”. Mair Ysgol yn cynnig cwrs Athro (MRes) un flwyddyn mewn Biowyddorau tra hefyd yn cyfrannu i nifer o gyrsiau Athro (MSc) eraill: Biohysbyseg (Yr Ysgol Feddygol); Bioffotoneg (Ysgol Ffiseg); Peirianneg Amgylcheddol (Ysgol Peirianneg); a Pheirianneg Meinwe (Sefydliad Caerdydd mewn Peirianneg ac Atgyweirio Meinwe (CITER)).