Rhaglen Cyrsiau Gradd
Canolbwyntia ein cyrsiau ar ddysgu deunydd mewn meysydd blaenllaw a phwysig yn y biowyddorau sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill ystod eang o brofiad a galluoedd. Defnyddir dulliau traddodiadol a chyfoes o ddysgu ac asesu, rhoddir cefnogaeth academaidd a phroffesiynol o’r radd flaenaf, a symbylir myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb o’u datblygiad personol. Dyfarnwyd ein cyrsiau yn “rhagorol” yn yr Asesiad diweddaraf o Safonau Dysgu Prifysgol gan aseswyr annibynnol o’r Llywodraeth.
