Ymchwil
Cydnabyddir Ysgol y Biowyddorau, Caerdydd yn bennaf am waith ymchwil ei chyn-Gyfarwyddwr, Yr Athro Syr Martin Evans FRS. Anrhydeddwyd Syr Martin trwy ddyfarnu iddo (ynghyd a Mario Cappechi a Oliver Smithies) Gwobr Nobel Ffisioleg neu Meddygaeth 2007 am ei “gwaith arloesol ar addasu genynnol mewn llygod trwy ddefnyddio celloedd bonyn embryonig”. O dan arweiniad ei Chyfarwyddwr cyfredol, Yr Athro Cyngor Ymchwil Meddygol Ole Petersen CBE FRS, a arloesodd mesur nodweddion sianelau sengl mewn celloedd epithelia a darganfod twneli calsiwm mewngellol yng nghelloedd chwarren ecsocrin, ceir cyfle deinamig ac ysgogol yn yr Ysgol i ddatblygu gwaith ymchwil. Ceir adnoddau modern trawiadol a chyfle i gydweithio ag ymchwilwyr safonol.
Yn nogfen awdurdodol Rhestr Flynyddol Prifysgolion y Byd 2010 (sy'n seiliedig ar gryfder a chyflawniad gwaith ymchwil), a grynhoir yn flynyddol gan Brifysgol Shanghai Jiao Tong (http://www.arwu.org ), rhestrir Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Caeryddd ymysg 100 uchaf led-led y byd ac yn 10 uchaf y DU.
Rhennir dros 350 o ymchwilwyr yn Ysgol y Biowyddorau i 4 Adran Ymchwil:
Cyfarwyddir pob adran gan ymchwilydd o statws rhyngwladol ac arwain pob aelod grŵp nifer o brosiectau ymchwil deinamig o safon ryngwladol
Cydnabyddir dylanwad gwyddonol yr Ysgol yn y degau o filiynau o bunnoedd a dderbyn yn flynyddol, a thrwy gyhoeddi gwaith ymchwil mewn cyfnodolion o’r radd flaenaf megis Science, Nature, PNAS a’r prif gyhoeddiadau ym mhob disgyblaeth ymchwil.
Bwrdd Ymgynghorol Gwyddonol Rhyngwladol
Apwyntiwyd tîm o academyddion blaenllaw o draws y byd i fod yn Fwrdd Ymgynghorol Gwyddonol Rhyngwladol i’r Ysgol.
Bwrdd Ymgynghorol Gwyddonol Rhyngwladol Membership [90.0 Kb]
Bwrdd Ymgynghorol Gwyddonol Rhyngwladol i'r Biowyddorau
Academyddion blaenllaw a fydd yn estyn canllawiau i’r Ysgol
Datblygiadau Ymchwil Traws-ddisgyblaethol
Ceir nifer o ganolfannau ymchwil traws-ddisgyblaethol sy’n gysylltiedig â’r Ysgol:
- Canolfan Biomecaneg a Biopeirianneg yr ARC
- Sefydliad Ymchwil Celloedd Bonyn Cancr
- Sefydliad Caerdydd mewn Peirianneg ac Atgyweirio Meinwe (CITER)
- Canolfan Niwrowyddoniaeth Caerdydd
- Consortiwm Ymchwil Dŵr Caerdydd
- Y Ganolfan Annwyd
- Canolfan Maes Danau Girang
- Canolfan Maes Llysdinam
- Cydweithfa'r Cyngor Ymchwil Meddygol (MRC) ar Niwroblastigrwydd, y Cof a Dysgu
- Sefydliad Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl
- Bioleg Strwythurol
- Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy
- Canolfan Bio-màs Cymru
- Parc Genyn Cymru
