Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Niwrowyddoniaeth

Haenen 5-cell pyramid

Haenen 5-cell pyramid

Ymchwilia’r Adran Niwrowyddoniaeth i ystod eang o ymchwil niwrobiolegol, yn amredeg o’r lefel folecwlaidd i’r  ymddygiadol.  Ceir ymchwilwyr yn gweithio ym meysydd: datblygiad nerfol; niwrowyddoniaeth folecwlaidd a chellol; niwroffisioleg; plastigrwydd synaptig; dysgu a chofio; a niwroddirywiad a’r system nerfol heneiddiol.  Ceisiwn gyfannu ein hymchwil i sicrhau gwell dealltwriaeth o weithrediad system nerfol iach a’r mecanwaith sy’n arwain i afiechydon niwrolegol. Ein prif amcan yw trosglwyddo gwybodaeth i driniaethau ffarmacolegol a chellol, ynghyd ag ymarfer clinigol gwell.

Mae’r Adran yn aelod o Ganolfan Niwrowyddoniaeth Caerdydd (CNC) sy’n dod ag ymchwil mewn niwrowyddoniaeth, seicoleg a geneteg seiciatrig, a genomeg at ei gilydd.  Estyn yr Adran Niwrowyddoniaeth hefyd gartref i’r ganolfan delweddu cyseiniant magnetig (MRI) arbrofol (EMRIC) a’r Grŵp Adfer Ymennydd, ynghyd â bod yn brif bartner yng nghynllun doethuriaethau (PhD) 4-mlynedd Ymddiriedolaeth Wellcome.

Meysydd Ymchwil

  • Gwahanrediad niwral mewn celloedd bonyn dynol a llygod.
  • Ffactorau tyfiant a niwrotrophig yn natblygiad system nerfol.
  • Rheoliad genyn mewn ymateb i symbylydd ffisiolegol.
  • Mecanwaith molecwlaidd, genetig a chellol yn gweithredu adeg cwsg a chynhyrchiad syndromau epilepsi.
  • Sefydlogwyr hwyl a sail gellol anhwylder deubegynol.
  • Technegau optegol datblygedig i ddelweddu pigynnau dendritig a deinameg calsiwm.
  • Ghrelin a rheolaeth y broses niwroendocrin.
  • Gwahanrediad gweithredol niwronau synhwyro ymylol oedolyn.
  • Cylchlinau niwral a gwahaniaethu arogleuol yn y rhyw ddynol.
  • Rheolaeth sianelau ion drwy ffosfforyleiddiad protein.
  • Arwyddo mewngellol mewn addysgu a chof.
  • Mecanweithiau plastigrwydd niwronau yn y cortecs ymenyddol.
  • Niwroddelweddu plastigrwydd a phrosesu synhwyrol.
  • Plastigrwydd yn natblygiad system weledol.
  • Prosesau molecwlaidd, cellol a niwral  mewn cof emosiynol a hir-amser.
  • Effeithiau heneiddio ar gylchedwaith awtonomig yr asgwrn cefn.
  • Gweithrediad syniwclin mewn systemau nerfol iach a dirywiol.
  • Heneiddio yn y system nerfol awtonomig.
  • Triniaethau cell-seiliedig i afiechydon Huntington a Parkinson.
  • Yr Athro Adrian Harwood (Arweinydd Adran Ymchwil Gweithredol)
    Bioleg nerfol y gell, anhwylderau’r meddwl a chyffuriau seicotropig.  Mae’r Athro Harwood hefyd yn aelod o’r Adran Ymchwil Biowyddorau Molecwlaidd..
  • Dr Nick Allen
    Mecanweithiau gwahanrediad nerfol mewn celloedd bonyn dynol a llygod gyda’r bwriad i ddatblygu protocolau i gyfarwyddo gwahanrediad cenhedlwyr nerfol i gaffael tynged nerfol benodedig a ffenoteipiau.
  • Dr Riccardo Brambilla
    Rôl llwybrau arwyddo mewngellol mewn dysgu a chofio.
  • Yr Athro David Carter
    Mecanweithiau sy’n rheoli mynegiant genyn mewn niwronau fel ymateb i symbylyddion ffisiolegol, ac yn ystod cyflyrau patholegol.
  • Yr Athro Vincenzo Crunelli
    Mecanweithiau molecwlaidd, cellol a genetig sy’n weithredol yn niwronau sengl a rhwydweithiau niwral y thalamws a’r cortecs yn ystod mynegiant gwahanol adegau o gwsg a chynhyrchiad syndromau epileptig.
  • Yr Athro Alun Davies
    Sut mae ffactorau niwrotroffig a ffactorau tyfiant eraill yn effeithio ar genhedliad a goroesiad niwronau, ac effeithio ar sefydlu ac ail-strwythuro cysylltiadau mewn system nerfol sy’n datblygu.
  • Yr Athro Steve Dunnett a’r Athro Anne Rosser  
    cyd-gyfarwyddwyr y Grŵp Adfer Ymennydd.  Prif nod y Grŵp yw datblygu triniaethau cell-seiliedig ar gyfer afiechydon niwro-ddirywiol, yn arbennig afiechydon Huntington a Parkinson, wedi eu datblygu o drawsblaniad celloedd cynradd ffetysol, cenhedlwr a bonyn yn yr ymennydd.
  • Yr Athro Kevin Fox 
    Mecanweithiau molecwlaidd a chellol sy’n sail i brosesu synhwyrol a phlastigrwydd synaptig yn y cortecs ymenyddol.
  • Yr Athro Tim Jacob
    Sut a pham y darganfyddwn arogl, a ydy dirnadaeth arogl yn gynhenid ac i ba raddau defnyddir arogl i gyfathrebu.
  • Dr Guy Major
    Cyfrifiadau sylfaenol mewn rhwydweithiau nerfol, gan gynnwys cynhyrchiad pigynnau lleol, potensialau gwastad a dewisiad cyfeiriad mewn celloedd sengl niwronau pyramidaidd dendritig.
  • Dr David McGonigle
    Gweithrediad system somatosynhwyrol iach ac afiach, cydberthnasau nerfol hyfforddiant sgiliau a dysgu canfyddiadol mewn systemau synhwyro.
  • Dr Rob Santer
    Newidiadau a ddigwydd mewn heneiddio yn y system nerfol awtonomig a’r mecanwaith cellol gwaelodol.
  • Yr Athro Frank Sengpiel
    Plastigrwydd datblygu yn y cortecs gweledol a datblygiad anhwylderau golwg.
  • Dr Kerrie Thomas
    Prosesau molecwlaidd, cellol a nerfol sy’n waelodol i gof hirdymor, yn arbennig cof emosiynol.
  • Dr Alan Watson
    Mecanweithiau gwaharddiadau cyn-synaptig ym madruddyn y cefn ac effeithiau heneiddio ar gylchlinau awtonomig yr asgwrn cefn.
  • Dr Tim Wells
    Rheoliad niwroendocrin a phrosesau endocrin gan statws metabolig, gyda diddordeb arbennig yng ngweithrediad ghrelin.
  • Dr Sean Wyatt
    Mecanweithiau sy’n arwain i gaffaeliad ffenoteipiau gweithredol penodol gan isgasgliadau gwahanol o niwronau synhwyro ymylol oedolyn.