Neidio at y cynnwys
Neidio at y fwydlen fordwyo

English

Yr Is-adran Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngwladol

Mae’r Is-adran Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gyfrifol am weithgareddau tramor y Brifysgol a hyrwyddo’r Brifysgol ar draws y byd, y DU ac i gynulleidfaoedd mewnol. Mae hyn yn cynnwys denu a chefnogi myfyrwyr tramor, cynnal enw da addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf Prifysgol Caerdydd ac ymgysylltu â chymunedau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol yng ngwaith y Brifysgol.


Mae’r Is-adran yn sicrhau bod gwasanaethau cefnogi wedi’u sefydlu ar gyfer dros 3,000 o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n cynrychioli dros 100 o wledydd. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth rhaglenni’r Sefydliad Rhyngwladol a rhaglenni dysgu Saesneg. Yn ogystal, mae’r Is-adran yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr ac mae’n gyfrifol am gynnal a datblygu cysylltiadau sylweddol Caerdydd gyda sefydliadau tramor.

Gwybodaeth i Fyfyrwyr Rhyngwladol

Syr Martin Evans, Llywydd y Brifysgol, yn Stiwdios y BBC gyda Kirsty
Young, cyflwynydd y rhaglen Desert Island Discs

Syr Martin Evans, Llywydd y Brifysgol, yn Stiwdios y BBC gyda Kirsty Young, cyflwynydd y rhaglen Desert Island Discs

Mae gwaith Cysylltiadau Cyhoeddus yr Adran yn chwarae rhan bwysig o ran datblygu a chynnal enw da’r Brifysgol trwy gyfathrebu effeithiol â’r cyhoedd a rhanddeiliaid allanol a mewnol. Mae’n hyrwyddo llwyddiannau ac uchelgeisiau’r Brifysgol trwy ystod o gyfryngau.

Mae’r tîm Cysylltiadau Cyhoeddus yn datblygu a gweithredu’r Strategaeth Gyfathrebu, sef prosiect eang gyda’r bwriad o wella cyfathrebu gyda staff, myfyrwyr a chynulleidfaoedd allanol y Brifysgol. Cadeirir tri grŵp cyfathrebu strategol gan y Dirprwy Is-Ganghellwyr canlynol: yr Athro Jonathan Osmond (Grŵp Myfyrwyr), yr Athro Terry Threadgold (Grŵp Staff) a’r Athro Ken Woodhouse (Grŵp Cynulleidfaoedd Allanol). 



Gwybodaeth Bellach ynghylch y gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus

Darllenwch Gynllun Strategaeth Cyfathrebu’r Brifysgol (38kb)

Mae’r Tîm Ymgysylltu Cymunedol yn cynorthwyo aelodau staff y Brifysgol wrth iddynt ymgysylltu â’r nifer o gymunedau sy’n rhan o Gaerdydd. Mae hyn yn cynnwys dathliadau rhyngwladol a chenedlaethol pwysig, digwyddiadau ymwybyddiaeth cyhoeddus, seminarau, gweithdai, trafodaethau, darlithiau ac arddangosfeydd. Mae gwaith y tîm yn cynnwys pob ysgol academaidd yn ogystal â chynrychioli’r Brifysgol ar lefel gorfforaethol.

Mwy o wybodaeth ynghylch Ymgysylltu Cymunedol

Cardiff University Links