Canolfan ar gyfer Crefydd a Diwylliant Hynafiaethol Diweddar
Y mae’r ganolfan hon yn hyrwyddo a chefnogi astudiaeth o grefydd a diwylliant hynafiaethol o’r Cyfnod Helenistaidd diweddar tan yr Oesoedd Canol cynnar, ac hefyd mewn perthynas â chyfnodau cynharach a diweddarach, yn fwyaf arbennig y cyfnod Hynafiaethol Clasurol a’r byd cyfoes.
Y mae’r Aelodau Staff Academaidd yn arbenigo mewn Ieithoedd Clasurol ac Orientaidd, Hanes, Archaeoleg, Athroniaeth, Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, Astudiaethau Diwylliannol a Llenyddiaeth.
Y mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig gydag ystod eang o ddiddordebau yn manteisio ar yr arbenigedd unigryw sy’n cael ei ddwyn ynghyd yn y Ganolfan.
Y mae rhaglenni ôl-raddedig drwy ddysgu yn cynnwys MA yng Nghrefydd y Cyfnod Hynafiaethol Diweddar fel llwybr oddi fewn i’r MA mewn Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddol a MA yn Archaeoleg y Cyfnod Hynafiaethol Diweddar a gynigir gan yr Ysgol Hanes ac Archaeoleg.
Cynigir ystod eang o fodiwlau gan aelodau’r ganolfan Dysgu Israddedigion.
Y mae’r rhaglen ieithoedd clasurol yn agwedd arbennig o gryf ar weithgareddau’r ganolfan.



